Etholiad 2019 – Blog byw o’r cownt yng Ngheredigion

gan Caleb Rees

Blog noson yr etholiad, sy’n dod yn fyw o’r cyfrif yng Nghanolfan Hamdden Aberaeron.

  • Mwyafrif o dros 6,300 i Ben Lake yng Ngheredigion
  • Y Torïaid yn dod yn ail
  • Mark Williams yn cyhoeddi na fydd yn sefyll eto. “mae 20 mlynedd yn eitha’ digon” meddai.

23:08

Y chwech ymgeisydd heno yng Ngheredigion – ydych chi’n nabod wyneb pawb?

Democratiaid Rhyddfrydol
y Blaid Werdd
Plaid Cymru
Llafur
Ceidwadwyr
Brexit Party

23:01

NEWYDDION

Mae’r Ceidwadwyr wedi ennill Pentre Sali Mali! (yn ôl y sampl o’r cownt)

Jac y Jwc yn rial Tori, mae’n amlwg… ?

22:51

Y sïon cynta’, edrych fel bod ras dau geffyl gwahanol yng Ngheredigion eleni. Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr fydd yn gyntaf ac yn ail ond ym mha drefn?

Sampl Felinfach yn wych i Blaid Cymru, tra bod y Ceidwadwyr yn cipio Pennant.

22:44

22:43

Y bocs mae pawb ’di bod yn aros am! Tybed pwy ma’ Jac y Jwc a Bili Bom Bom wedi pleidleisio dros?

22:38

Os na’ chi’n cofio, dyma ganlyniad yr Etholiad Cyffredinol diwethaf, yn 2017.

O’dd hi’n dynn!

  • Plaid Cymru – Ben Lake – 11,623   29.2%
  • Dem Rhydd – Mark Williams – 11,519    29%
  • Llafur – Dinah Mulholland – 8,017   20.2%
  • Ceidwadwyr – Ruth Davis – 7,307   18.4%
  • UKIP – Tom Harrison – 602   1.5%
  • Y Blaid Werdd – grenville Ham – 542   1.4%
  • Y Lwnis – Syr Dudley the Crazed – 157   0.4
Hywel Llyr Jenkins
Hywel Llyr Jenkins

Noson a hanner oedd hi yn 2017. Dim ond un cyfrif bydd angen heno gobeithio, gan weld cynnydd ym mhleidlais Ben Lake.

Mae’r sylwadau wedi cau.

22:28

Yr exit poll cenedlaethol yn darogan y bydd Plaid Cymru yn colli sedd, ac yn mynd o 4 i 3.

Ai Ceredigion fydd yn colli mas?

Mae tîm Ben Lake wedi cyrraedd y cownt yn dawel hyderus o gadw gafael ar y sedd. Dyma farn Rhodri Evans, un o’r ymgyrchwyr lleol, erbyn heno –

“Mewn ymgyrch a nodweddwyd gan ddyddiau byr, llwydaidd, a sesiynau ymgyrchu cyfatebol o fyr, mae ymwybyddiaeth trigolion Ceredigion o Ben Lake wedi bod yn belydryn cadarnhaol a dorrodd trwy’r diflastod a chysylltwyd â’r oerfel a’r glaw. Roedd yn amlwg ar garreg y drws fod gwaith diflino Ben dros y ddwy flynedd diwethaf wedi gwneud dylanwad ar etholwyr Ceredigion. Roedd ond rhaid crybwyll ymdrechion egnïol Ben ar achosion megis yr ymgyrch i achub bad achub Cei Newydd, neu i ddiogelu taliadau pensiwn y menywod WASPI i ennyn cyfaddefiad fod Ben, yn ei gyfnod fel Aelod Seneddol wedi gweithio’n galed i neud gwahaniaeth ledled Ceredigion, ac yn genedlaethol. Ar sail ei lwyddiannau lu, gobeithiwn y bydd Ben yn cael ei ailethol erbyn bore fory, gan adlewyrchu’r gwaith arbennig mae eisoes wedi ei gyfrannu i’r Sir, i’w Blaid, ac i’w genedl, a chyfiawnhau ei weledigaeth i Geredigion i’r dyfodol.”

 

22:24

Mae’r bocsys cynta mewn! Aberaeron, Aberarth, Llanarth, Ciliau Aeron a Chilcennin oedd y cynta mas o’r blocs!

Dim ond 71 bocs i fynd…

Pa focs fydd nesa mewn?

Dyfalwch! ?

22:21

Felly, mae’r bleidlais a’r ben a’r cyfrif ar fin dechrau. Ond sut aeth hi gyda’r pleidiau?

Mae timau Plaid Cymru, y Dem Rhydd, Llafur, y Ceidwadwyr a’r Gwyrddion wedi cyrraedd y cyfrif, ac mae ymgeisydd y Blaid Werdd yma hefyd – Chris Simpson.

Ni newydd gael sgwrs gydag un o’i ymgyrchwyr ifanc – Tomos Barlow – i glywed shwt ymgyrch mae wedi bod i’r blaid yn y sir:

“Mae’r ymgyrch Plaid Werdd yn Ceredigion wedi bod yn dda. Trwy ein stondinau stryd i fynd i’r hystings i’r ffilm 2040 ddangoswyd yn yr Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, siaradon ni gyda amryw o bobl o gwmpas y sir. Mae ein ymgeisydd, Chris Simpson, yn barod i sefyll i fyny a cynrychioli pawb yn y sir yn trio taclo ein argyfwng hinsawdd, cael economi werdd yng Ngheredigion, trio cyflwyno UBI i’r wlad a sefyll i fyny dros wleidyddiaeth barchus i’r pobl o Geredigion ac ymhellach. Mae pleidlais ar gyfer ni yn pleidlais ar gyfer newid.”

22:13

Caleb a Lowri yn cownt Ceredigion heno. Cadwch lygad ar hwn er mwyn cael y newyddion diweddaraf  – Ni mewn am noson hir!