Tywysydd y Parêd, Wyn Mel, yn cyflwyno llun i Baravin

Wynne Melville Jones yn cyflwyno llun gwreiddiol fel cydnabyddiaeth o gefnogaeth Baravin i’r Gymraeg

Siôn Jobbins
gan Siôn Jobbins
Siôn Jobbins (ch) a Wyn Mel (dde) gyda llun Wyn yn wobr i fwyty Baravin

Siôn Jobbins (ch) a Wyn Mel (dde) gyda llun Wyn yn wobr i fwyty Baravin

Baravin, y bwyty poblogaidd ar y Promenâd, yw enillwyr llun gwreiddiol hyfryd Wyn Mel am eu cefnogaeth a defnydd o’r Gymraeg.

Fel Tywysydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth eleni, penderfynodd Wyn, sy’n artist adnabyddus, gyflwyno darlun gwreiddiol o’i eiddo i’r busnes sydd wedi gwneud fwyaf i hyrwyddo’r Gymraeg dros y flwyddyn. Yr enillwyr oedd Baravin, gyda Gwesty’r Richmond a Gwe Cambria ar y rhestr fer.

Caiff y darlun o’r haul yn machlud dros Bromenâd Aber a’r Angel Heddwch enwog a chwpl yn y blaendir, ei arddangos yn y bwyty i’r cyhoedd gael ei weld. Heb os, bydd sawl un yn galw draw i Baravin ddydd Sadwrn yma, 4 Mawrth, gan bydd y Parêd flynyddol yn gorffen yno. Galwch draw i weld – a chofiwch gefnogi Gwesty’r Richmond a Gwe Cambria am iddynt hwy hefyd fod yn gefnogol i’r Gymraeg.

Mae Parêd 2023 yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed ac eleni mae wedi anrhydeddu’r arloeswr Cysylltiadau Cyhoeddus lleol, y dyn busnes a’r artist Wyn Mel (Wynne Melville Jones) fel Tywysydd 2023 i gydnabod ei ‘gyfraniad sylweddol a rhyfeddol’ i hybu’r Gymraeg yn lleol ac yn genedlaethol.