
Mae diwrnod y Sioe wedi cyrraedd gyda’r tywydd yn wych. Awyr iach yn Lovesgrove. Dewch draw, ond os na, byddwn yn anfon canlyniadau dros y diwrnod
Ac mae gwobrau lu yn mynd adre i Drawsfynydd. Llongyfarchiadau i Ioan Evans at enillydd ceffyl y Sioe (Supreme Champion) 🏆

Gwawr Edwards yn derbyn cwpan ar ran Glenn Cass o Blaenpennal yn y categori Ceffylau Gwedd

Abbie Dark yn dathlu gyda cwpan y veterans AC yn mynd ar wobr i Crofty

Elfed Davies, Gwerlyrhaul, Blaencillech yn cael y wobr gyntaf yn adran y ceffylau gwedd

A fyddai’r Sioe ddim yn gyflawn heb y ddau yma. Pawb yn rhoi ymdrech ardderchog. Sioe wedi plesio pawb.

Mary, Ysgrifennydd y ceffylau yn cael egwyl ar ei diwrnod penblwydd yn 70 mlwydd oed

Nid 1, nid 2 ond 3 cwpan i Arwyn Hughes o Gefncoch, Rhydyfelin. Cwpannau yn aros yn lleol. Y gwobrau yn adran Cobiau Cymreig ( Adran D).
Ceffyl arbennig yw Cefncoch Black Harry Dam
A Peter Owen Davies, Cwm Canol, Cwmsymlog oedd yr enillydd gwobr Millennium Shire am y ceffyl gwedd gorau o Geredigion

Teulu Dykes, Ty Lan, Nebo oedd y buddugwyr yn yr Adran Yrru.

Enillwyr Merlod y Sietlad
Cyntaf – Teulu Edwards, Wernfeiliog, Creuddyn Bridge
Ail- Sarah Benton, Bryngolau, Blaenpennal