Mis Prysur YesCymru Aberystwyth

Anturiaeth y gangen yn ystod Mis Hydref

gan Jeff Smith
387847905_1749856318819194Marian Delyth

Ymgyrchwyr ar draeth Aberystwyth. Llun: Marian Delyth

380452934_262210003457710Ifor ap Dafydd

Ymgyrchwyr (a chi) ar ôl casglu ysbwriel


Roedd mis Hydref yn gyfle gwych i gangen Aberystwyth o YesCymru ledu’r gair am yr angen am annibyniaeth i Gymru. Dechreuwyd trwy gyfrannu at ymgyrch mawr ar draws y wlad, sef Baneri ar Draethau.

Ymgyrch oedd hyn i dynnu sylw at yr angen i Gymru gael rheolaeth ar Ystadau’r Goron. Ystadau’r Goron sy’n bia gwely’r môr o amgylch Cymru, ymysg tiroedd eraill, ac mae’r holl elw gan yr Ystâd yn mynd i’r trysorlys yn Llundain (gyda chwarter yr arian yn mynd at y teulu brenhinol wedyn). Gyda thwf ynni adnewyddadwy yn y môr, mae’r elw wedi bod yn cynyddu’n aruthrol. Mae gwerth Ystadau’r Goron yng Nghymru bellach yn £853m, wrth gymharu â £549m dwy flynedd ynghynt. Gyda rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig ar lan y môr ond ddim yn cael unrhyw fudd o’r cyfoeth ar y gorwel, mae’n hen bryd i’r elw ddod i Gymru, yn ôl yr ymgyrchwyr.

Wedi cynnwrf y digwyddiad baneri, aethpwyd ati i drefnu awr o gasglu ysbwriel yn y dref. Mae’r ymgyrchwyr yn awyddus i wneud gwahaniaeth ar lawr gwlad a mynd i’r afael â materion sy’n bwysig i’w thrigolion felly mae’r gangen yn trefnu sesiynau codi sbwriel sawl gwaith y flwyddyn. Tro hwn, daeth chwech o bobl i dacluso’r dref. Cafwyd ymateb cadarnhaol gan y cyhoedd.

Yn olaf, cynhaliwyd cyfarfod cangen tua diwedd y mis, er mwyn trefnu’r camau nesaf. Mae digwyddiadau cyffrous ar y gorwel, gan gynnwys digwyddiad baneri arall wrth gylchfan Penparcau, codi sbwriel Nadoligaidd a chasglu cyfraniadau gan aelodau at fanc bwyd.

Mae’r gangen wastad yn awyddus i weld wynebau newydd ac yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i’w dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol i glywed am y newyddion a digwyddiadau diweddaraf.

https://m.facebook.com/profile.php/?id=100064531158891&name=xhp_nt__fb__action__open_user