Dathlu Hanner Canrif o Ysgol Penweddig

Nifer fawr yn dod i ddathlu ym Mhenweddig!

gan Elin Mair Mabbutt
PXL_20230916_123019779-1

Cyn Brifathrawon yr ysgol: Ms Mair Hughes, Mr Gerald Morgan a Mr Arwel George gyda Ms Rhian Morgan, Pennaeth presennol yr ysgol.a

IMG_2312-1

Y gacen!

IMG_2617

Mr a Mrs Gerald Morgan gyda Lois Rhiannon

IMG_2583

Mr Arwel George

Photo-4

Mrs Sian Davies

IMG_2383
IMG_2589-1

Cyn athrawon yr ysgol

IMG_2497

Disgyblion presennol yn helpu yn ystod y prynhawn agored

I gofnodi carreg filltir nodedig yn hanes Ysgol Penweddig, gwahoddwyd y gymuned i adeilad presennol yr ysgol ar ddydd Sadwrn, Medi 16eg i ymuno yn nathliadau hanner canrif yr ysgol. Mynychodd disgyblion, athrawon, staff a rhieni dros bum degawd y prynhawn agored gan fwynhau teithiau tywys o amgylch yr ysgol, pori drwy hen luniau, rhannu atgofion a mwynhau adloniant gan ddisgyblion presennol.

Sefydlwyd Ysgol Penweddig, ym Medi 1973, a hi oedd ysgol gyfun Gymraeg gyntaf yng Ngheredigion ac ers hynny mae wedi darparu addysg Cymraeg ac amgylchedd Cymreig i blant a phobl ifanc Aberystwyth a’r cyffiniau ers dros 50 mlynedd.

Braf oedd croesawu Pennaeth cyntaf yr ysgol, Mr Gerald Morgan, i’r digwyddiad, yn ogystal â rhai o’i olynwyr: Mr Arwel George, Ms Mair Hughes a’r Pennaeth presennol, Ms Rhian Morgan.

Cafwyd teithiau tywys o gwmpas adeilad presennol yr ysgol o dan ofal disgyblion presennol yr ysgol gan gynnwys y prif swyddogion: Lowri Jones, Gwenllian Mason, Alys Jenkins a Lois Rhiannon. Dyma oedd cyfle cyntaf nifer o ddisgyblion i ymweld â’r safle newydd wrth hiraethu a hel atgofion am safle Ffordd Ddewi.

Darparwyd adloniant gan ddisgyblion presennol yr ysgol Miri Davies, Steffan Jones, Gruffydd Sion ac Ioan Mabbutt. Fe’u cefnogwyd gan Mrs Catrin Mai Davies a Mr Arwel Williams, athrawon y Gyfadran Greadigol.

I gloi’r prynhawn ymgasglodd pawb ynghyd yn Llyfrgell i fwynhau lluniaeth ysgafn a chafwyd anerchiad teimladwy a phwrpasol gan Mr Arwel George, pennaeth yr ysgol rhwng 1989 ag 2009 gan ddwyn i gof rhai o atgofion o’i gyfnod ym Mhenweddig. Torrwyd cacen y dathlu, a baratowyd gan Mrs Shan James cyn ddisgybl ac un o swyddogion gweinyddol presennol yr ysgol, gan gyn brifathrawon a phennaeth presennol yr ysgol

“Mae wedi bod yn brynhawn bendigedig gyda llawer mwy o bobl yn mynychu nag yr oeddem yn ei ddisgwyl. Braf oedd gweld cymaint o gyn-athrawon a disgyblion yn hel atgofion yn ogystal â gweld ein disgyblion presennol yn chwarae rhan flaenllaw yn y dathliadau. Fel ysgol, rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y prynhawn.” Ms Rhian Morgan, Pennaeth presennol a chyn-ddisgybl.