Cynhadledd unigryw i ddathlu ffynhonnau Cymru

Diwrnod arbennig ar y gweill yn y Llyfrgell Genedlaethol

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
holywells1

Beth ydych chi yn gwybod am ffynhonnau Cymru? Efallai eich bod yn arbenigwr ar y cwis yma: –

https://www.bbc.co.uk/quiz/cymru-fyw/q01105816

Os na chawsoch chi farciau llawn, neu os gwnaethoch chi fwynhau dysgu, beth am ymuno mewn Cynhadledd yn y Llyfrgell Genedlaethol ar ddydd Sadwrn y 9fed o Fehefin.

Os ydych chi yn Gyfaill y Llyfrgell Genedlaethol neu yn aelod o Fforwm Hanes Cymru – mae mynediad am ddim, ond am £6 i eraill, mae lluniaeth a diwrnod llawn o ddarlithoedd am ffynhonnau Cymru.

Dyma’r rhaglen ar gyfer y dydd: –

10.30am: Te a choffi
10.55am: Croeso’r Cadeirydd (Yr Athro Bob Morris)
11.00am: Mike Farnworth – Paganiaeth o Dan yr Wyneb – Ffynhonnau Sanctaidd Cymru
12:00pm: Eirlys Gruffydd Evans – Gwarchod y Trysor
1.00pm: Cinio
2.00pm: Howard Huws – Ffynhonnau Clytiau Cymru
3.15pm: Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Fforwm Hanes Cymru

Os ydych chi am ddod a ffrind sydd ddim yn siarad Cymraeg, mae cyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu.

Beth am fwcio ticed – https://www.ticketsource.co.uk/llgcnlw/t-eazlemy