Y cerddor sydd bellach yn Gynghorydd

Cerddor addawol yn cael ei gyfethol yn Gynghorydd Tref Aberystyth

Mererid
gan Mererid
gwi

Gwion Morgan-Jones

Mewn cyfarfod o Gyngor Tref Aberystwyth nos Lun, 13eg o Fai, cyfetholwyd Gwion Morgan-Jones yn gynghorydd tref dros ward Aberystwyth Penparcau.

Wedi ei eni a’i fagu ym Mhenparcau, mae Gwion wedi astudio yn Llundain ac yn gerddor sydd wedi perfformio ar draws Prydain. Mae’n aelod o Bwyllgor Gefeillio Aberystwyth – Kronberg.

Fel aelod annibynnol, dywedodd Gwion: –

Mae’n bleser mawr gennyf hysbysu’r trigolion fy mod wedi cael fy ethol fel Cynghorydd Tref Aberystwyth ar gyfer Ward Penparcau. Rwy’n teimlo’n freintiedig i gael y cyfle hwn i gynrychioli fy nghymuned a gweithio er budd pawb.

Dywed Haka Entertainments ar eu gwefan: –

Mae Gwi yn ganwr ifanc o Aberystwyth sy’n anelu i fynd yn bell yn y diwydiant cerddoriaeth. Yn y gorffennol, bu’n ymwneud â chorau fel Only Kids Aloud (seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd – Côr 4 Nations, 8th Symphony Mahler – Rwsia) a Sgarmes (BBC1’s Pitch Battle). Mae ef bellach am ddatblygu yn unawdydd canu cyfoes ac mae’n gallu perfformio yn Gymraeg ac yn Saesneg gydag ystod eang o ganeuon addas i bob math o ddigwyddiad.

Dyma flas o showreel Gwion https://www.youtube.com/watch?v=rq6kd_i1kpY

Mae Gwion yn dilyn esiampl ei dad Michael, oedd hefyd yn Gynghorydd tref dros ward Penparcau, ac yn Faer yn 2006.

Llongyfarchiadau mawr a phob lwc Gwion.