Prosiect Hawlio Heddwch

Siân Howys yn sôn am hanes Apêl Heddwch Merched Cymru 1923-24

gan Sue jones davies

Daeth criw da ynghyd i’r Druid yn Goginan i glywed Siân Howys, Swyddog Cymunedol Ceredigion o Brosiect Hawlio Heddwch yn siarad am hanes Apêl Heddwch Merched Cymru 1923-24.

Soniodd Siân am sut mae’r hanes wedi bod yn un coll am gymaint o flynyddoedd. Daethpwyd o hyd i glawr yr Apêl yn archifau’r Deml Heddwch yng Nghaerdydd yn 2017 ac ers hynny mae ymgyrchwyr heddwch, haneswyr ac academyddion wedi bod yn ymchwilio i ddod i hyd i’r hanes.

“Fe gyflawnodd y merched gamp ryfeddol” medd Siân “yn cerdded milltiroedd mewn pentrefi ac ardaloedd gwledig fel Goginan am eu bod yn benderfynol i yrru neges cryf i ofyn am help mudiadau merched yr Unol Daleithiau i ymgyrchu dros fyd diryfel.” Casglwyd bron i 400,000 o lofnodion o bob rhan o Gymru a chyflwynwyd yr Apêl i ferched America yn Chwefror 1924.

Yn ystod y sgwrs rhannodd Siân luniau o dudalennau o lofnodion a chyfeiriadau lleol ac roedd yn hyfryd clywed y gynulleidfa yn sgyrsio am enwau teulueodd lleol sy dal yn gysylltiedig â Goginan a rhyfeddu at yr ymateb gafwyd.

“Wnes i hefyd ddod o hyd i lofnodion merched teulu Evans o’r Druid,” medde Siân, “ynghyd ag aelodau teulu milwyr o’r ardal a gollwyd yn y Rhyfel Mawr.”

Ar hyn o bryd, mae cannoedd o wirfoddolwyr yn helpu i drawsgrifio papurau’r Ddeiseb sydd i’w gweld ar safle we y Llyfrgell Genedlaethol. Os oes diddordeb gyda chi mewn trawsgrifio neu mewn cynnal gweithgaredd lleol i gofio, dathlu a gwireddu gweledigaeth y merched, cysylltwch gyda’r Tîm Cymunedol ar post@academiheddwch.cymru.

Dweud eich dweud