Dathlu cysylltiad gyda’r Ariannin

Cofio cyfraniad dau arbennig

Mererid
gan Mererid
IMG_20240515_211631484

Morys a Hector

IMG_20240515_211728845_HDR
IMG_20240515_211714053_HDR

Glynis, Richard, Brandon a Kerry y Maer

IMG_20240515_211657843

Gwerfyl a Ned

IMG_20240515_211653548

Cerith a Roger

IMG_20240515_211631484

Morys a Hector

IMG_20240515_211624395

Cynthia a Mercedes

IMG_20240515_193100132_HDR

Amgueddfa yn llawn

Ar nos Fercher, 15fed o Fai 2024, cafwyd noson arbennig yn Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth.

Pwyllgor Gefeillio Aberystwyth-Esquel oedd wedi trefnu’r noson a hynny i ddathlu 15 mlynedd o efeillio rhwng y ddwy dref.

Roedd y noson yn arbennig i gofio dau oedd wedi cyfrannu at weithgaredd gefeillio a dathlu cysylltiad rhwng Cymru a’r Ariannin, sef Elvey MacDonald a Eirionnedd Baskerville.

Darllenodd Stephen Tooth, Cadeirydd y Gymdeithas, deyrnged a baratôdd gwr Eirionnedd, Derek Baskerville i’w chofio. Morus Gruffudd, mab-yng-nghyfraith Elvey, ddarparodd deyrnged am gyfraniad Elvey.

Bu cyfraniad gan Stephen am ddaearyddiaeth Patagonia a Roger Mills am lyfr, gydag eraill yn rhannu atgofion am Elvey ac Eirionnedd.

I ddiweddu’r noson, roedd cyfraniad cerddorol arbennig gan Hector Ariel (nai Elvey), ei wraig Cynthia a’r plant oedd wedi dod draw i Gymru o’r Ariannin dros gyfnod Eisteddfod yr Urdd. Roedd chwaer Elvey, Edith hefyd yn cyflwyno’r caneuon.

Cafwyd wedyn gyfraniad cerddorol gan Rhisiart Arwel o ganeuon o’r Ariannin ar y gitâr.

Diolch i Gymdeithas Partneriaeth Pobl Aberystwyth a Esquel (AEPPA) am drefnu, i Amgueddfa Ceredigion am y lleoliad a’r lluniaeth, ac i Gyngor Tref Aberystwyth am ariannu.