Cwmnïaeth

Croeso a chyfle i ddod i adnabod

gan Medi James
Cylch pasio'r parsel
Bwydydd o bedwar ban
Aelodau o Sefydliad y Merched yn gweini

Yn Neuadd Goffa Penparcau ar ddechrau blwyddyn newydd daeth cyfle i’r ffoaduriaid hynny sy’n byw yn ardal Aberystwyth ddod at ei gilydd. Yn blant, pobl ifanc, rhieni, dwy nain a dwy hen chwaer o Syria, Afghanistan a’r Wcrain.

Daeth y gwahoddiad i’r parti at Aberaid trwy gangen Penparcau o’r W.I. a chriw gweithgar wedi paratoi’n wych ar gyfer y pnawn hwyliog oeddynt. Cafwyd croeso cynnes gan aelodau o Benllwyn a Felin-fach yn ogystal â’r merched lleol. Roedd y Neuadd wedi ei haddurno’r, cerddoriaeth pwrpasol er mwyn chwarae pasio’r parsel a gemau tebyg. Y plant bach wrth eu boddau yn ennill bag o losin a phlant hŷn yn cael hwyl yn dawnsio ar gyfer gêm ‘statues’. Roedd hyd yn oed cornel wedi eu neilltuo i’r babanod yn llawn teganau addas a balŵns lond y lle. Roedd bwrdd ar gyfer dysgu’r grefft o wneud macramé, a byrddau wedi ‘u gosod mewn mannau i bobl gael dod at eu gilydd am sgwrs dros baned, cacen neu blatiad anferth o fwydydd amrywiol.Roedd pawb wedi dod a dysgl o fwyd, sawrus neu felys a gwelwyd byrddau gorlawn o wahanol fwydydd, gwledd ddiwylliannol yn wir, newid derbyniol o dwrci, stwffin a thatw rhost.

Dylai Aber a Cheredigion fod yn falch iawn eu bod yn rhoi noddfa hael i drigolion y gwledydd yma.