Carol yr Ysgol Gymraeg yn fuddugol

Ysgol Gymraeg Aberystwyth yw enillwyr cystadleuaeth Carol yr Ŵyl 2023

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Plant Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn canu carolau ar sgwar Llanbadarn

Llongyfarchiadau mawr i’r Ysgol Gymraeg ar ennill cystadleuaeth S4C ar gyfer ysgolion cynradd i ddod o hyd i garol y flwyddyn. Yn ystod mis Rhagfyr gwelwyd rhagflas o garolau’r deg ysgol a ddaeth i’r brig ar y rhaglen Prynhawn Da. Yna mewn rhaglen arbennig ar yr ail ar hugain o Ragfyr dangoswyd y deg carol yn eu cyfanrwydd cyn cyhoeddi mae’r Ysgol Gymraeg oedd yn fuddugol.

Mr Aled Morgan gyfansoddodd yr alaw wreiddiol, y geiriau gan Mr Gareth James a Mrs. Caryl Jones yn cyfrannu/addasu’r garol orffenedig. Talodd y cydweithio ar ei ganfed ac yn amlwg roedd perfformiad arbennig plant Blwyddyn 5 a 6 wrth fodd y beirniaid Mared Williams ac Elidyr Glyn.

Gwyliwch y fideos a mwynhewch:

Fideo o’r garol fuddugol

Rhagflas a chefndir y garol

Gellir gweld rhaglen Carol yr Ŵyl yn ei chyfanrwydd ar wasanaeth CLIC S4C (angen cofrestru)