Ysgolion Ceredigion yn cefnogi Cymru yng Nghwpan y Byd

Ogi ogi ogi, oi oi oi! Cymru i gyd sydd wedi’i chyffroi!

Anwen Eleri Bowen
gan Anwen Eleri Bowen
swn-gitar-yn-Guitar
bale-ar-bois
Yma-o-hyd-1

Ar ddiwrnod gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd, lansiwyd gweithgareddau a datgelwyd nifer o brosiectau cyffrous sydd wedi bod ar y gweill yng Ngheredigion.

Daeth disgyblion blwyddyn 5, 6 a 9 Ysgol Henry Richard ynghyd i gael Premiere ffilm, dadorchuddio cerdd, gweithgareddau a fideo Yma o Hyd ar ddydd Llun 21 Tachwedd. Roedd cyfle i bob ysgol gynradd ymuno hefyd i wylio Premiere o’r Ffilm Cymru am Byth am 2.45yp

Dechreuodd prosiect Cymru am Byth fel prosiect bach gyda holl ysgolion cynradd Ceredigion yn rhan o weithdy i greu cerdd gyda’r prifardd Ceri Wyn Jones. Aeth yr ysgolion ati i greu ac yna bu Ceri Wyn yn rhoi trefn ar y gwaith a ddaeth i law, gan droi’r gerdd yn rap. Datblygodd y prosiect fel caseg eira ….. Mae’r rap yn dilyn taith y bêl o un ysgol i’r llall gyda’r ysgolion yn pasio, cicio, penio’r bêl ar draws 39 ysgol gynradd. Bu disgyblion blwyddyn 6 ysgolion y sir yn cyfrannu a pherfformio mewn ffilm o’r rap. Datblygwyd y rap i fynd gyda’r gerdd gan y grŵp Roughion. Gellir gweld fideo’r rap ‘Cymru am Byth’ ar dudalen Facebook Cardi Iaith, @CardiIaith neu ar youtube:

https://www.youtube.com/watch?v=I_0wqw6JABQ&feature=youtu.be

Mae holl ysgolion uwchradd y sir wedi bod yn rhan o greu cerdd gydag Aneirin Karadog. Mae’r gerdd honno bellach wedi ei throi’n llun gan yr arlunydd Lizzie Spikes.

Mae gwefan yn llawn adnoddau a gweithgareddau wedi ei rhyddhau i ysgolion y sir hefyd. Mae’n cynnwys heriau oddi wrth Dafydd Iwan, sgwrs gyda Rhys Norrington-Davies a sesiwn sylwebu gyda Dylan Ebenezer. Dyma lond y lle o weithgareddau ar draws yr holl feyseydd dysgu a phrofiad.

I goroni’r cyfan, datblygwyd fideo o ysgolion y sir yn canu Yma o Hyd. Danfonwyd y fideo i Gymdeithas Bêl-Droed Cymru i rannu ‘pob lwc’ o Geredigion. Gellir gweld fideo ‘Yma o Hyd’ ar sianel YouTube Cardi Iaith: https://youtu.be/z24qpA5umcI

Dywedodd y Cynghorydd Ifan Davies, Cadeirydd y Cyngor: “Mae plant Ceredigion wedi bod yn gweithio’n galed i greu’r campweithiau yma i gefnogi ein gwlad yng Nghwpan y Byd. Maent yn edrych fel eu bod wedi mwynhau’r gweithgareddau gan hefyd ddysgu drwy’r Gymraeg. Pob lwc i Gymru oddi wrth bawb yng Ngheredigion!”

 Dywedodd Anwen Eleri, Swyddog Cefnogi’r Gymraeg mewn Ysgolion: “Wrth fynd o amgylch ysgolion Ceredigion, mae mor braf gweld bwrlwm y cyffro ymysg ein pobl ifanc, ac hefyd yr athrawon. Mae’r holl waith yn sicr yn gwneud y Gymraeg yn gyffrous a pherthnasol i’n plant. Diolch i’r ysgolion am fod yn rhan o’r cyfnod bythgofiadwy yma yn hanes Cymru.”

Mae yna gyffro mawr yn ysgolion y sir. Maent yn barod i gefnogi Cymru! Pe bai modd troi ymdrech yn goliau, bydd Cymru’n siŵr o guro Cwpan y Byd!