Maes D yn yr Eisteddfod

Dod wyneb yn wyneb

gan Medi James

Yn y Vale, Dyffryn Aeron daeth criw Maes D ‘steddfod Ceredigion at eu gilydd wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers mis Chwefror 2019. Braf oedd cael sgwrs gyffrous a thrafod y croeso sy’n aros pawb sy’n dod i Dregaron. Ymysg yr arlwy yn Maes D, gofod sydd wedi ei ymestyn eleni, bydd sesiwn blasu Jin Talog; dod i adnabod Dysgwyr y Flwyddyn; dod i wybod mwy am Mark Drakeford; gwrando ar stori bob dydd; pori mewn llyfrau; cofio Carl Clowes; clywed gan siaradwyr Cymraeg o dramor sy wedi ymgartrefu yng Ngheredigion; Cymraeg yn y gweithle a llawer iawn o gerddoriaeth fyw rhwng y sgwrsio. Bydd croeso i bawb.