Eirian yn cerdded ymhell!

Taith i Ranbarth Chubut, yr Ariannin, i godi arian i Nyrsys Marie Curie

Ar 5 Tachwedd eleni gwelwyd 26 o Gymru yn cwrdd ym maes awyr Heathrow – nifer o’r de, rhai o’r gogledd a minnau o’r canolbarth – i hedfan i’r Wladfa i gerdded dros nyrsys Marie Curie.

Cychwyn y daith oedd hedfan o Lundain i Buenos Aires ac, ar ôl noswaith o gwsg, hedfan ymlaen i Esquel i ddechrau ar y cerdded. Yna bws o faes awyr Esquel i’r gwersyll cyntaf yn La Caledro, ardal o dirffurfiau folcanig yn dilyn ffrwydriadau 5 biliwn o flynyddoedd yn ôl. Bûm yn cerdded, ar y diwrnod cyntaf, drwy geunentydd anhygoel.

Cysgu’r ail noswaith mewn pebyll ger craig Piedra Parada, a chrwydro’r ceunentydd o amgylch y graig nodedig hon ac afon Chubut.

Ar y trydydd diwrnod cerddom i fyny dyffryn Chubut i anelu at Guaijaini, lle byddwn yn cysgu mewn pabell am y tro olaf ar y daith. Roedd swper y noson honno yn un traddodiadol yn yr Ariannin, sef cig, cig a mwy o gig.

Bore trannoeth, bws i Nant y Fall cyn cerdded y 12 milltir i Drefelin, lle cawsom croeso arbennig yn yr ysgol Gymraeg (lle bu Gwenno Morris, Penrhyn-coch, yn dysgu) gyda bwyd ac adloniant traddodiadol Gymreig.

Taith dros nos i’r Gaiman ar fws, a brecwast yn y Tŷ Gwyn yn y Gaiman. Wedyn, ymweld â’r capel Cymraeg cyn gwylio Cymru yn chwarae yn erbyn yr Ariannin yng Nghlwb Rygbi’r Gaiman. Swper yn y Gaiman, a chysgu’r nos yn Trelew cyn hedfan yn ôl i Buenos Aires.

Roedd gweddill y diwrnod i ymlacio ac ymweld â La Boca, rhan o’r ddinas sy’n enwog am ei thîm pêl-droed, sef Boca Juniors, clwb Diego Maradona cyn iddo symud i’r Eidal. Lle llawn bwrlwm, gyda phob caffi yn cynnig adloniant drwy eu dawnswyr tango eu hunain.

Ar 14 Tachwedd dychwelodd y grŵp i faes awyr Buenos Aires i deithio ’nôl i Lundain, taith o 15 awr, ac ar 15 Tachwedd fe laniodd ein hawyren yn Llundain gwlyb a mwll.

Hoffwn ddiolch i bawb wnaeth fy noddi ar y daith hon; heb eich cefnogaeth, ni fyddwn wedi gallu cymryd rhan. Yn bersonol, codais £4,250 ac fel grŵp roedd y ffigwr dros £100,000. Pam? Mae Nyrsys Marie Curie yn cynnig gwasanaeth gwerthfawr i deuluoedd pan fydd aelod o’r teulu â salwch terfynol. Mae £20 yn talu am nyrs i edrych ar ôl unigolyn am awr; mae £70 yn prynu dwy ‘slide sheet’, offer sy’n esmwytho symud claf yn y gwelym ac mae £180 yn talu am nyrs i edrych ar ôl claf am shifft lawn o 9 awr.

Os hoffech gefnogi’r gwasanaeth gwerthfawr hwn, gallwch anfon yn syth at Nyrsys Marie Curie neu drwy’r gronfa at fy nghyfraniad i: www.justgiving.com/eirian-reynolds1

Eirian Reynolds