Dirprwy Weinidog yn ymweld ag Aber

Dawn Bowden – Aelod Senedd Cymru yn ymweld a nifer o sefydliadau yn Aberystwyth ar y 15eg o Ragfyr

Mererid
gan Mererid

Ar ddydd Iau oer iawn yn Rhagfyr, ymwelodd Dawn Bowden gyda nifer o sefydliadau Aberystwyth.

Gan ddechrau yng Nghanolfan Ddosbarthu’r Cyngor Llyfrau ym Marc Diwydiannol Glanrafon, cafodd daith o amgylch y warws sydd yn dosbarthu 500,000 o lyfrau’r flwyddyn.

Wedi cinio yn y Llyfrgell Genedlaethol, cafodd weld rhai o’r creiriau arbennig gyda Morfudd Bevan yn dangos y casgliad celf, Rob Phillips yn dangos yr archif wleidyddol a Maredudd ap Huw yn dangos casgliadau archifol arbennig – gyda Pedr ap Llwyd y llyfrgellydd yn cyflwyno llun.

Taith fer i ystafell ddarllen y Comisiwn Brenhinol (sydd o fewn y Llyfrgell) gan ddod i wybod mwy am eu gwaith arbennig.

Symud wedyn i Amgueddfa Ceredigion a chafodd ei chyflwyno i Carrie Canham, Curadur yr Amgueddfa a Non Davies, Rheolwr Corfforaethol dros Ddiwylliant.

Dywedodd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon:

“Mae wedi bod yn bleser ymweld ag Aberystwyth heddiw a gweld rhywfaint o’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan staff ymroddedig Cyngor Sir Ceredigion – sy’n rhoi cyfle i bobl y dref. Cyfle i ddysgu, dathlu a choffau hanes, treftadaeth, diwylliant ac iaith yr ardal.”

Symudodd yr ymweliad ymlaen i lyfrgell y dref – Canolfan Alun R.Edwards, Sgwâr y Frenhines, Aberystwyth, lle cyfarfu Arwyn Morris, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyswllt Cwsmer ac Emyr Lloyd, Llyfrgellydd Cynorthwyol â’r Gweinidog.

Cafodd taith o amgylch y Llyfrgell sydd wedi’i lleoli ar lawr gwaelod a llawr cyntaf yr adeilad. Nododd Arwyn ac Emyr y gwahanol ffyrdd o weithio yn ystod y pandemig megis y gwasanaeth Clicio a Chasglu, a’r cynnydd mewn e-lyfrau.

Gwahoddodd Helen Palmer, Archifydd Sirol, Rheolwr Gwybodaeth a Chofnodion y Gweinidog i weld yr Uned Archifau. Gwelodd y Gweinidog rai o’r mapiau lliw hardd. Mae’r mapiau’n hynafol iawn ar y cyfan ond yn cynnwys dau fap newydd, a grëwyd gan bobl leol i goffáu eu teithiau cerdded yn ystod y Cyfnod Clo, ynghyd ag edrych ar rai ryseitiau o lyfr coginio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gan deulu Webley Parry.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion,

“Pleser oedd croesawu’r Dirprwy Weinidog yma i Geredigion, a dangos iddi rhai o’r safleoedd celfyddydol gwerthfawr sydd gyda ni.”