100 oed

Penblwydd Hapus Phyllis Kinney

gan Medi James
Phyllis a'r teulu - gwen i bawb
Phyllis - y dyddiau cynnar yn Llundain

Phillys Kinney yn 100 oed – Gorffennaf 2022

Yn Neuadd odidog Gregynnog yn y Llyfrgell Genedlaethol ar ddiwrnod ei phen-blwydd yn 100 oed, daeth cynulleidfa niferus a gwerthfawrogol i ddymuno pen-blwydd hapus i Phyllis, a hithau yn cael gofal tyner a charedig yn Hafan y Waun Aberystwyth

Aeth Eluned, ei merch, a ni ar daith o luniau atgofus o Phyllis. Clywsom am ei hoffter cynnar o gerddoriaeth yn ystod ei magwraeth yn Pontiac yr Unol Daleithiau. Aeth ymlaen i astudio’r llais yn Princeton. Tra’n astudio roedd ganddi gysylltiadau cynnar a Chymry alltud gyda gwybodaeth am gerddoriaeth werin a chael cymorth parod gydag  ynganiad geiriau Cymraeg oedd mor ddieithr iddi. Ond i Lundain i fod yn gantores opera ddaeth Phyllis yn y 40au hwyr. Adroddodd Eluned am fywyd ei  mam yn Llundain a’r cyfarfyddiad cyntaf a’i darpar ŵr Meredydd Evans ym Mangor o bob man.

Yn ogystal â theithio gyda chwmnïau opera dros y D.U. clywyd llais canu Phyllis ar nifer o raglenni radio poblogaidd gan y BBC yn y 50au a’r 60au. Ar ôl iddi briod Mered a geni Eluned clywsom am y mynd a’r dod fu dros yr Iwerydd. Ond Cwmystwyth Cymru aeth a’u bryd yn yr 80au gan ddechrau ar ymchwil blynyddoedd i eiriau, miwsig a chaneuon o’r traddodiad canu gwerin yng Nghymru a thu hwnt. Roedd dod i siarad Cymraeg yn rhugl yn agor y drws i Phyllis ddod i ddeall y traddodiad cerddorol yma.

Yn ail hanner y prynhawn arbennig yma cawson ddatganiad ar y delyn deires gan Elinor Bennett. Fe glywsom y gerddoriaeth a’r geiriau y bydde mor gyfarwydd i Phyllis. Ymysg y caneuon gwerin, Migldi Magldi, Y Ddau Farch a Blewyn Glas ynghyd a datganiadau o waith John Parry – Parri Ddall 1710 -1782 ac Edward Jones Bardd y Brenin 1752 – 1824.

Cafwyd prynhawn rhyfeddol ac yn siŵr fe aeth y teulu a chyfarchion lu lan at Phyllis i’r Waun