Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol: dydd Sul

Diwrnod 3 a’r ffeinal fawr

Y Ddolen (papur bro)
gan Y Ddolen (papur bro)

Mae’n ddiwrnod olaf y Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol ar gaeau Tancastell, Rhydyfelin.

Ers 7.45am bore ma’ mae’r 15 rhedwr gorau o’r ddau ddiwrnod diwethaf yn cystadlu yn y brif bencampwriaeth.

Mae’r cwrs wedi newid a’r amser sydd ganddynt i’w gwblhau bellach yn 30 munud.

Newyddion gwych yw bod Dewi Jenkins, Talybont wedi ennill ei le yn y ffeinal a bydd yn rhedeg 10fed heddiw gyda Jock.

19:07

Mae wedi bod yn benwythnos prysur ar gaeau Tanycastell, Rhydyfelin.

Dim yn aml mae digwyddiad rhyngwladol yn digwydd yn ein milltir sgwâr.

Llongyfarchiadau i’r pwyllgor cyfan ar gynnal digwyddiad o safon.

Edrychwn ymlaen at ddal lan da rhai ohonynt wythnos yma i gasglu eu huchafbwyntiau ar gyfer rhifyn Hydref Y DDOLEN.

18:30

Llongyfarchiadau i Dewi Jenkins, Tyngraig ar gyrraedd yr 8fed safle mas o’r 60 oedd yn cystadlu penwythnos yma.

Ond cofiwch, roedd cannoedd yn cystadlu ar draws y pedair rownd genedlaethol a gynhaliwyd yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon.

8fed felly yn wych! Da iawn ti.

18:26

Idris Morgan, Bancllyn yn derbyn tlws am y cystadleuydd hynaf fu’n cystadlu yn y Treialon Rhyngwladol eleni.

Hefyd enillodd dlws sbortsmonaeth a ddyfarnwyd gan y beirniaid.

18:03

Mae’r canlyniadau yn cael ei darlledu’n fyw yma…

https://www.facebook.com/morfudd.lewis.5/videos/1960655837424056/

17:48

Mae’r seremoni wobrwyo wedi dechrau!

16:36

Ma’r 15 wedi rhedeg erbyn hyn yn y bencampwriaeth.

Newydd siarad ag ambell un o’r pwyllgor sydd wedi bod ar y cae ers tridiau llawn a chyn hynny yn paratoi. Bydda nhw wedi blino fory!

Ni’n gadael y cae nawr ond bydd y blog yn aros ar agor i’ch diweddaru chi gyda’r canlyniadau maes o law.

16:07

Ma’ logo’r treialon eleni yn cynnwys Pendinas a dyma chi lun o sut mae yma brynhawn yma.

Pendinas yn y cefndir wrth i’r defaid ddod trwy’r glwyd bellaf.

Tywydd di troi ma’ rhyw ychydig. Bwrw glaw man!

15:44

Cadw llygad ar gapten tîm Cymru, Kevin Evans yn cystadlu. Un ddafad ar ôl i rannu cyn gallith e roi nhw yn y lloc.

15:23

Dyma’r cwrs ma’ nhw’n rhedeg heddi – mae angen casglu dwy set o ddefaid.

15:15

Grêt gweld merch yn rhedeg yn y 15 heddi! Elinore Nilsson o’r Alban.