Plant sychedig yn gofyn i Gyngor y Dref am ffynnon ddŵr

Plant sychedig yn gofyn i Gyngor y Dref am ffynnon ddwr

Mererid
gan Mererid

Gyda’r tywydd yn cynhesu, mae sglefrwyr Aberystwyth yn gofyn i Gyngor Tref Aberystwyth i roi ffynnon ddŵr yn y parc sglefrio. Arferai bwyty y Starling Cloud ddarparu dŵr, ond ers y cyfnod clo, nid ydynt yn cynnig hwn bellach.

Mae defnyddwyr y parc yn nodi ei fod yn adnodd gwych i’r gymuned, ond bod gwaith corfforol yn sychedig.

Parc sglefrio Aberystwyth

Cyngor Tref Aberystwyth sydd yn rhedeg parc sglefrio Aberystwyth (Parc Kronberg), a hynny wedi derbyn grant gan gronfa’r Loteri Fawr. Agorwyd y parc yn Rhagfyr 2017.

Gosodwyd ffynhonnau dŵr ar bromenâd Aberystwyth ym Mai 2020, ac un tebyg sydd ei angen ar gyfer y parc.

Dros 60 o fusnesau lleol yn cefnogi ymgyrch i ddefnyddio llai o blastig

Gohebydd Golwg360

Mae ffynhonnau dŵr hefyd wedi eu gosod ar bromenâd Aberystwyth fel rhan o’r cynllun.