Dros 60 o fusnesau lleol yn cefnogi ymgyrch i ddefnyddio llai o blastig

Mae ffynhonnau dŵr hefyd wedi eu gosod ar bromenâd Aberystwyth fel rhan o’r cynllun.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Richard Steele a’i gi Wolfie yn defnyddio’r ffynnon ddŵr newydd – Llun Neil Jones

Mae dros 60 o fusnesau lleol yn Aberystwyth yn cefnogi ymgyrch newydd Refill Aberystwyth sydd yn annog pobol i ddefnyddio llai o boteli plastig ac i yfed mwy o ddŵr tap.

Mae Refill Aberystwyth sydd yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr o’r grŵp Aberystwyth di blastig yn perthyn i gynllun ehangach ar draws gwledydd Prydain i geisio lleihau’r defnydd o blastig.

Diolchodd Richard Steele sydd yn ymwneud â’r cynllun i’r busnesau lleol am eu parodrwydd i gydweithio.

“I ddechrau roedd gwirfoddolwyr fel fi yn mynd o gwmpas yn siarad â busnesau yn y dref i’w hannog i gymryd rhan,” meddai.

“Ond erbyn hyn mae busnesau lleol wedi bod yn cysylltu â ni, sydd yn wych i weld.”

“Bydd unrhyw fusnes sydd ynghlwm â’r cynllun â sticer ail lenwi yn ffenest y siop neu gaffi, a bydd modd i’r cyhoedd fynd yno i ail lenwi eu poteli dŵr.”

Ffynhonnau dŵr

Yn ogystal â’r busnesau lleol mae dwy ffynnon ddŵr wedi eu gosod ar y promenâd er mwyn lleddfu syched cerddwyr a rhedwyr ar lan y môr.

“Rydym yn ddiolchgar iawn hefyd i Gyngor y Dref am eu cefnogaeth. Un o’r pethau olaf i’r cyngor ei wneud cyn i gyfyngiadau’r coronafeirws gael ei rhoi mewn lle oedd gosod y ffynhonnau dŵr ar y promenâd.

Ychwanegodd Richard Steele, “rydym yn cynghori pobol i fod yn gall wrth ddefnyddio’r ffynhonnau dŵr, a dilyn cyngor y Llywodraeth am olchi dwylo i leihau ymlediad y coronafeirws.

“Mae hefyd modd defnyddio eich pengliniau i ddefnyddio’r ffynhonnau dŵr.”

Richard Steele yn defnyddio’r ffynnon ddŵr newydd – Llun Neil Jones
  • Anwybyddu
  • Dysgu
  • Nôl
  • Nesaf