Mart Pontarfynach ar y sgrîn fach

Pwy welodd y rhaglen arbennig o Farchnad Pontarfynach ar Cefn Gwlad neithiwr?

Megan Lewis
gan Megan Lewis

Roedd hi’n drysor o raglen yn cofnodi bywyd fel rydym ni’n ei adnabod yn ardal Pontarfynach, a braf oedd gweld sawl wyneb cyfarwydd hefyd.

Disgrifiwyd y mart fel lle ‘sbeshal’, ‘unigryw’ ac ‘arbennig’.

Pam tybed?

Dywedodd sawl un fod pethau wedi newid yn y mart ar hyd y blynyddoedd – y defaid wedi datblygu a’r gwaith papur wedi mynd yn llymach – ond mae un peth wedi aros yn ddigyfnewid. Ie, y bobl. Y cymeriadau sy’n dod â’r mart yn fyw, ac fe glywyd sawl gwaith ar y rhaglen neithiwr pa mor bwysig oedd cael lle fel hyn i ddod ynghyd i gymdeithasu, rhannu barn, syniadau a safbwyntiau. Nid oes amheuaeth fod y caeau a’r ffald yn gallu bod yn llefydd unig i ffermwr, felly mae’n bwysig cael ymgynnull mewn man cyhoeddus i drafod â phobl sy’n rhannu’r un profiadau â chi.

Ac mae Ifan yn adnabod ei bobl yn dda hefyd, ac yn gallu tynnu’r gorau ohonynt mewn rhaglen fel hon, ac yntau a’i deulu wedi cefnogi’r farchnad ar hyd y blynyddoedd.

Yn ystod y rhaglen, cawsom ddilyn y criw a fu wrthi’n paentio’r mart yn goch yn yr haf, arwerthiant blynyddol y defaid penfrith a’r farchnad a’r sioe Nadolig. Cafwyd cyfweliadau cofiadwy hefyd gan Gadeirydd y Mart, Geraint Evans Nantgwyn neu Ger Cŵps, Rheolwr y Mart Milwyn Davies Pantyrofyn a dilyn John Erwbarfe a’i lori enwog.

Fe ddisgrifiodd James Raw hanes paentio’r mart yn yr haf, gan gofnodi’r hanes o’i sefydlu. Gallwch ddarllen yr hanes yn llawn yma: Paentio’r mart yn goch.

Cefn llwyfan a’r prif gylch

Un o’m hoff ddisgrifiadau ar y rhaglen neithiwr oedd fel y disgrifiodd Ifan y gatiau a’r llociau fel ‘cefn llwyfan’, yn llawn prysurdeb a pharatoadau munud olaf, ac yna’r cylch gwerthu fel y ‘llwyfan’, a’r gynulleidfa’n eistedd yn eiddgar ar y meinciau pren, neu’n sefyll blith draphlith o gwmpas y lle – ond pawb yn yr un llecyn o wythnos i wythnos. A phan na fydd rhywun yno ar wythnos benodol, mae yna fwlch amlwg yn y dorf lle y dylai fod.

Oes, mae yna drysor o hanes yma, ond mae’n amlwg hefyd fod yna ddyfodol disglair iawn i Farchnad Pontarfynach. Diolch am ei chofnodi.

Gallwch ailwylio’r rhaglen yn ei chyfanrwydd yma ar S4C-Clic: Mart Pontarfynach.