Paentio’r mart yn goch!

Torchi llewis i dacluso, sgrwbio a phaentio marchnad Pontarfynach

gan James Raw
Marchnad Pontarfynach

Ar ddechrau mis Mehefin, daeth llawer o’r gymuned amaethyddol yn ardal Pontarfynach ynghyd i dorchi llewys a phaentio pob twll a chornel o’r farchnad ddefaid.

Braf oedd gweld cymaint yn ymgynnull, gan gadw pellter cymdeithasol wrth gwrs, a chwblhau’r gwaith o baentio, tacluso a sgrwbio. Gwaith hanfodol, sydd angen ei wneud bob 20 mlynedd i gynnal a chadw’r arwerthiant.

‘Mart y Brij’

Sefydlwyd y farchnad ar droad y ganrif ddiwethaf tu ôl i Gwesty’r Hafod yn agos at lle mae’r toiledau cyhoeddus.

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf (1919), sefydlwyd y farchnad ar y lleoliad presennol. Ers hynny, mae wedi gweld cenedlaethau o deuluoedd yn ymgynnull o amgylch y cylch i brynu, gwerthu a – rhywbeth sydd llawn cyn bwysiced – trafod a chnoi cil dros baned ar bnawn dydd Mercher.

Gwerthu defaid a gwartheg a wnaed yn wreiddiol, ond ers yr hanner canrif ddiwethaf dim ond defaid ac ŵyn sy’n cael eu gwerthu yno.

Mae’r hen draddodiad o’r defaid a’r ŵyn yn cael eu hel oddi ar y ffermydd mynydd i’w gwerthu a’u hanfon i lawr i ddaear gwell yr un mor bwysig heddiw â phan sefydlwyd y farchnad.

Croesewir prynwyr o Loegr, Y Gŵyr a Sir Benfro bron bob wythnos.

Yr arwerthwr

Mr Daniel Rees yw’r arwerthwr ers iddo gymryd yr awenau oddi ar ei dad yn 1975.

Bu ei dad yn gwerthu yno o 1945 ymlaen a’i ddad-cu o ddechreuad y farchnad nôl tua 1908.

Mae Daniel yn dipyn o gymeriad a byddai rhai o’i ‘one liners’ yr un mor gyffyrddus mewn Gŵyl Gomedi ag y maent yn y cylch gwerthu! Dyna beth sy’n bwysig i wneud i bawb ymlacio a theimlo’n gartrefol.

Calendr y mart

O ddiwedd mis Gorffennaf, bydd y farchnad yn gwerthu’n wythnosol gyda’r prif seli defaid ym mis Medi.

Gwelir y defaid hŷn o’r mynyddoedd yn cael eu gwerthu er mwyn mynd lawr i fagu ar borfeydd gwell.

Yn wahanol i’r rhan fwyaf o farchnadoedd, mae’r ŵyn yn cael eu gwerthu yn stôr, sef bod angen mwy o borthiant neu adfwyd arnynt cyn y byddant yn barod i’w lladd.

Gwelir y seli hyrddod ym mis Medi, ynghyd â seli’r defaid penfrith (speckled faced), sy’n gynhenid i ardal Pontarfynach.

Sêl pwysig arall yw’r Sêl Nadolig ar ddechrau mis Rhagfyr.

Ynghlwm â’r sêl hon, bydd cystadleuaeth ar gyfer grŵp o bump o ŵyn gorffenedig, cystadleuaeth i’r ŵyn cynhenid (ysgafn a thrwm), ŵyn cyfandirol (ysgafn a thrwm) a hefyd cystadleuaeth i’r Ffermwyr Ifanc.

Fel arfer, mae’r holl gystadlu yn codi syched, a lle gwell i fynd nag i Westy’r Hafod i gal swper, peint a pharti?

Edrych tua’r dyfodol

Pan fu rhaglen boblogaidd Hinterland yn chwilio am leoliadau ffilmio, doedd dim angen newid rhyw lawer ar yr hen adeiladau i greu set hynafol!

Roedd hwn yn brofiad gwych i ni’r ffermwyr lleol – er doedd dim angen llawer o golur ar rai o’r ffermwyr i greu cymeriadau, tywyll, sinistr!

Dros y blynyddoedd, mae’r farchnad wedi cal sawl sialens i ddygymod â hi. Mae’r rhain yn cynnwys lleihad yn nifer y defaid ar y mynyddoedd wrth i gynlluniau amgylcheddol gyfyngu ar y rhifau, cynnydd anferthol mewn gwaith papur a chlefyd y Clwy’r Traed a’r Genau.

Yn sgil y clefyd hwnnw, mae’n rhaid i bob anifail gael ei dagio a phob symudiad ei gofnodi a’i yrru i’r bas-data cenedlaethol. Mae hyn llawer iawn o waith ychwanegol i Daniel a’i dîm.

Profiad newydd arall i sawl un ohonom oedd gweld drôn yn hedfan uwch ein pennau yn ffilmio ein gwaith paentio. Heb yn wybod i ni, mae Cefn Gwlad am wneud rhaglen ar y farchnad a phwt am yr unigolion sy’n prynu a gwerthu yno.

Ar ran Daniel a’r pwyllgor prysur, hoffwn ddiolch i bawb am eu cymorth, gan obeithio bydd 20 mlynedd arall yn mynd heibio cyn y bydd angen i’r ‘Red Oxide’ ddod allan unwaith eto.

Dyma ambell lun o’r diwrnod prysur …