Mae’n ddydd Sadwrn cyntaf Rhagfyr ac mae’n ddiwrnod Marchnad Ffermwyr Aberystwyth.
Digwydd bod, mae’n ddydd Sadwrn y busnesau bach hefyd!
Cyfle gwych i ddod am dro i Aber, cefnogi’r stondinau a’r siopau bach yn y dref.
Gwisgwch yn gynnes a dewch am dro.
Diwrnod prysur yn Aber heddiw – galwch draw i Stryd y Popty ar gyfer digwyddiad goleuo’r dre Menter Aberystwyth.
Er bod hi’n wyntog ag oer lawr yma yng Nghoedlan y Parc mae’r bore wedi hedfan! Diolch am y croeso cynnes.
Braf cael sgwrs gyda thwr o wahanol bobl.
Gwyliwch allan am straeon ar wefan BroAber360 cyn bo hir am Aber Food Surplus a’r Syrian Dinner Project.
Ymddiheuriadau i’r stondinau dwi heb gyrraedd heddiw i dynnu llun ohono. Roedd rhai wedi gwerthu allan!
Mae Sgarmes yma yn diddanu!
Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.