![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/6/2021/12/IMG_20211204_100105-640x396.jpg?0)
Mae’n ddydd Sadwrn cyntaf Rhagfyr ac mae’n ddiwrnod Marchnad Ffermwyr Aberystwyth.
Digwydd bod, mae’n ddydd Sadwrn y busnesau bach hefyd!
Cyfle gwych i ddod am dro i Aber, cefnogi’r stondinau a’r siopau bach yn y dref.
Gwisgwch yn gynnes a dewch am dro.
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/6/2021/12/IMG_20211204_105936-308x190.jpg?0)
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/6/2021/12/IMG_20211204_114440-308x190.jpg?0)
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/6/2021/12/IMG_20211204_114820-308x190.jpg?0)
Mae Sgarmes yma yn diddanu!
Ni’n cwrdd a’r stondinwyr yma yn y Farchnad Ffermwyr.
Dyma ddwy sydd yn siarad tipyn bach o Gymraeg. Diolch am gytuno i ddweud helo!
https://www.caercandles.com/
Www.purityskincare.co.uk
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/6/2021/12/IMG_20211204_105754-640x396.jpg?0)
Drychwch pwy sydd wedi cyrraedd!
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/6/2021/12/IMG_20211204_105043-1-308x190.jpg?0)
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/6/2021/12/IMG_20211204_105232-640x396.jpg?0)
Mae’n prysuro yma yn y Farchnad Ffermwyr.
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/6/2021/12/IMG_20211204_095534-1-640x396.jpg?0)
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/6/2021/12/16386132546738534581555485329659-308x190.jpg?0)
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/6/2021/12/16386134386713966304835692142216-308x190.jpg?0)
Ma stondin da ni ar y pen.
Oes gyda chi syniad am stori?
Dewch draw i rannu syniadau am straeon posib i’ch gwefan fro.
Ar y stondin hefyd mae llyfryn Bro Ni sy’n llawn gweithgareddau creadigol i bobol sy’n falch o’u bro!
Sara Beechey yw trefnydd Marchnad y Ffermwyr yn Aber. Mae’n estyn croeso cynnes i chi yma bore ma.
Lawr yng Nghoedlan y Parc ar safle’r hen depot bws mae’r farchnad.