Marchnad Ffermwyr Aberystwyth

Ni’n fyw bore ma yn y farchnad! 

Enfys Medi
gan Enfys Medi

Mae’n ddydd Sadwrn cyntaf Rhagfyr ac mae’n ddiwrnod Marchnad Ffermwyr Aberystwyth.

Digwydd bod, mae’n ddydd Sadwrn y busnesau bach hefyd!

Cyfle gwych i ddod am dro i Aber, cefnogi’r stondinau a’r siopau bach yn y dref.

Gwisgwch yn gynnes a dewch am dro.

10:14

Sara Beechey yw trefnydd Marchnad y Ffermwyr yn Aber. Mae’n estyn croeso cynnes i chi yma bore ma.

Lawr yng Nghoedlan y Parc ar safle’r hen depot bws mae’r farchnad.