Sul y Mamau Hapus

Siop y Parc, Blaen-plwyf, yn cyfarch mamau’r pentref

Y Ddolen (papur bro)
gan Y Ddolen (papur bro)

Ydych chi wedi gweld rhifyn Mawrth o bapur bro Y Ddolen?

Mae ffenest Gŵyl Ddewi Siop y Parc, Blaen-plwyf, yn harddu’r dudalen flaen.

Ychydig wythnosau yn ddiweddarach mae arddangosfa drawiadol arall yn y ffenest – cyfarchion i famau’r pentref i ddathlu Sul y Mamau. Nid oedd y mamau yn gwybod dim! Anwen Evans, un o’r gwirfoddolwyr, fu’n brysur yn cydlynu’r arddangosfa gan gysylltu â theuluoedd ac annog cyfraniadau. Mae’n edrych yn wych ac yn adlewyrchu rôl bwysig y siop yn ganolbwynt i’r pentref.

Siop gymunedol yw Siop y Parc, Blaen-plwyf, ac mae’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr. Mae wedi gwasanaethu’r pentref yn ddi-dor yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wrth i gyfyngiadau Covid-19 ddal gafael ar ein bywydau o ddydd i ddydd.

Yn ystod y misoedd cyntaf dan glo, a nifer o’r gwirfoddolwyr arferol o’r to hŷn yn cael eu hannog i aros adref, camodd gwirfoddolwyr newydd i’r adwy fel bod y siop yn gallu parhau ar agor. Mae’n adnodd gwerthfawr i’r pentref, a diolch i bawb sy’n cefnogi.

Newyddion grêt hefyd yw fod Y Ddolen wedi gwerthu allan yn y siop mis yma – ond mae mwy wedi cyrraedd bore ’ma!

Sul y Mamau hapus i famau a mam-gus holl ardal Y Ddolen.