Cynghorwyr tref newydd wedi eu cyfethol

Cyngor Tref Aberystwyth yn cyfethol tri cynghorydd newydd

Mererid
gan Mererid

Mewn cyfarfod o Gyngor Tref Aberystwyth nos Lun, 22ain o Chwefror 2021, cyfetholwyd tri chynghorydd newydd i gymryd lle’r tri wnaeth ymddiswyddo.

Fe nodwyd ar BroAber360 fod tri chynghorydd wedi gadael sef Brenda Haines, Rhodri Francis a Michael Chappell: –

Chwilio am gynghorwyr tref newydd

Mererid

Cyngor Tref Aberystwyth yn chwilio am gynghorwyr newydd

Kerry Ferguson

Mae Kerry Ferguson yn weithgar gyda Menter Aberystwyth a Chynllun Lle Aberystwyth, yn ogystal â rhedeg busnes dylunio gwefannau gyda’i phartner, Emlyn. Mae Kerry yn mwynhau canu, ac yn brysur iawn ar y cyfryngau cymdeithasol.

Jeff Smith

Dychwelyd i’r Cyngor yw hanes Jeff Smith gan iddo fod yn gynghorydd dros ward Gogledd Aberystwyth rhwng 2012-2017. Ef oedd Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, ac mae’n gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae Jeff yn weithgar gyda YesCymru a Chymdeithas yr Iaith, yn ogystal â bod yn ymgyrchydd dros lein trên o Aberystwyth i Gaerfyrddin.

Danny Ardeshir

Mae Danny Ardeshir yn byw yn ward Gogledd Aberystwyth ac yn gweithio i ADAS. Mae Danny yn poeni am yr amgylchedd ac wedi dechrau deiseb i achub ein gerddi.

https://www.change.org/p/county-councils-save-our-gardens/u/27034659

Pob lwc i’r tri ohonynt.