Chwilio am gynghorwyr tref newydd

Cyngor Tref Aberystwyth yn chwilio am gynghorwyr newydd

Mererid
gan Mererid

Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn chwilio am unigolion i lenwi tri lle gwag ar Gyngor Tref Aberystwyth yn wardiau Penparcau, Rheidol a Chanol Aberystwyth. Mae manylion am wneud cais i gael eich cyfethol ar y dolenni yma.

Penparcau: https://www.ceredigion.gov.uk/media/8375/notice-of-co-option-penparcau.pdf

Rheidol: https://www.ceredigion.gov.uk/media/8376/notice-of-co-option-rheidol.pdf Canolog: https://www.ceredigion.gov.uk/media/8374/notice-of-co-option-central.pdf

Felly pwy sydd yn gadael y cyngor?

Brenda Haines

Etholwyd Brenda yn 2012 fel cynghorydd Democratiaid Rhyddfrydol dros ward Penparcau. Brenda oedd maer Aberystwyth yn 2014-15, ond mae problemau iechyd wedi gwneud y flwyddyn ddiwethaf yn anodd i Brenda. Wedi ei geni a’i magu yn Aberystwyth, bu Brenda yn nyrs am nifer o flynyddoedd, ac yn fam ac yn fam-gu.

Rhodri Francis

Bydd rhai ohonoch yn cofio fod Rhodri wedi cael trafferthion oherwydd COVID-19 i ddod yn ôl i Brydain o Wlad Thai. Etholwyd Rhodri yn 2017 fel cynghorydd Plaid Cymru dros ward Rheidol. Mae’n gweithio i CERED, menter iaith Ceredigion. Symudodd Rhodri a’i deulu i Lanilar yn ddiweddar.

Dan glo yng Ngwlad Thai – O Aberystwyth i Petchabun

R Francis

Dwi’n eistedd lawr tu allan i’r tŷ ym Mhetchabun yng Ngwlad Thai gan ddweud wrthyf fy hun …

Michael Chappell

Etholwyd Michael hefyd yn 2017 fel cynghorydd Democratiaid Rhyddfrydol dros ward Canol Aberystwyth. Roedd Michael yn gweithio mewn amrywiol siopau yn nhre Aberystwyth, ond mae gwaith wedi ei orfodi i symud i ffwrdd erbyn hyn.

Rydym yn ddiolchgar i’r tri chynghorydd am eu holl gyfraniad i’r Cyngor Tref.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn gynghorydd tref?

https://www.facebook.com/jobs/job-opening/114902527161501/?source=attached_post_timeline