Dan glo yng Ngwlad Thai – O Aberystwyth i Petchabun

gan R Francis

Dwi’n eistedd lawr tu allan i’r tŷ ym Mhetchabun yng Ngwlad Thai gan ddweud wrthyf fy hun ‘Ni dal ‘ma’ fisoedd ar ôl cyrraedd ym mis Mawrth. Y dyddiad heddiw yw yr 8fed o Fehefin 2020 neu mewn blynyddoedd calendar Gwlad Thai, 2563 ac ydyn, dan ni dal ’ma….

Mae fy ngwraig Noi yn hanu o Wlad Thai ac rŷn ni’n dod ’ma yn flynyddol – pob gwyliau haf yr ysgol fel arfer – gyda’n merch 9 oed, Yanisha Sainam. Y tro ’ma daethom draw ym mis Mawrth – gadael ar y 14eg o Fawrth a gobeithio mynd nôl adref wedyn ganol mis Ebrill – gan aros yng Ngwlad Thai dros gyfnod Gwyl Songkran, y cyfnod pwysica yn y calendar Bwdaidd, sef prif grefydd Gwlad Thai. Mae’n gyfnod ble mae teuluoedd yn mynd i’r temlau i weddio ac yn dangos diolchgarwch i’r henoed. Mae ochr Thai ein merch yn ogystal â’i hochr Gymraeg yn rhan bwysig o’i hunaniaeth. Gan fod Gŵyl Songkran yn rhan allweddol o’r diwylliant Thai, doeddwn i ddim eisiau i Yanisha golli allan ar hynny sef yr ŵyl fwyaf yng nghalendr y wlad, gŵyl sydd mewn geiriau eraill fel ‘Nadolig’ Gwlad Thai. Penderfynom fynychu’r ŵyl eleni gan nad oeddwn eisiau gohirio mynychu flwyddyn ar ôl blwyddyn a dod at sefyllfa mewn blynyddoedd i ddod ble fydd Yanisha wedi tyfu i fyny a cholli allan ar rywbeth sydd yn rhan bwysig iawn o’i hunaniaeth.

Rwy’n cofio gadael y gwaith yn swyddfa Canolfan Rheidol Cyngor Sir Ceredigion yn Aberystwyth ar y Dydd Gwener cyn i ni deithio ar y dydd Sadwrn, a prin roeddwn yn dychmygu mai dyma fyddai’r tro olaf i fi fod yno am sbel. Roedd newyddion am y Coronafeirws ar y teledu bob awr ond nid oeddwn wedi rhagweld o gwbl yr hyn oedd yn mynd i ddigwydd i fi a fy nheulu.

Roedd y daith o Heathrow i Bangkok yn esmwyth ac wedi cyrraedd Maes Awyr Suvanabhumi, roedd yn deimlad braf. Mae wastad wedi bod yn deimlad o ryddhad pan dwi wedi cyrraedd y maes awyr anhygoel ’ma yn Bangkok – ac nid oedd y teimlad yn wahanol y tro ’ma. Ein teulu wedyn yn ein casglu o’r maes awyr ac yn ein hebrwng i Petchabun, sef ein cartref yng Ngwlad Thai.

Y dyddiau nesaf? Roedd pethau wedi newid dros nos! Cymru a Phrydain gyfan dan glo! Yna, ffiniau Gwlad Thai yn cau dros nos! A Gŵyl Songkran yn cael ei chanslo’n llwyr! Roeddwn yn llythrennol yn styc! Daeth panig mawr drosta i -‘Pryd byddwn ni’n mynd nôl?’, ‘Beth am hyn?’, ‘Beth am y llall?’ ayyb. ayyb. Ond ar ôl ymdawelu a rhoi terfyn ar y panig oedd yn fy rheoli yn llwyr, ceisiais gofio yr hyn rwyf wedi ddysgu mewn bywyd sef byw ‘Un dydd ar y tro’ – dywediad sydd wedi ei sgrolio yn datŵ ar fy ngarddwn. Dyna’r hyn sydd yn fy nghadw fi i fynd pan mae yna argyfwng – ‘Un dydd ar y tro’.

Wrth edrych nôl ar yr wythnosau diwethaf, dwi’n ceisio derbyn pethe fel maen nhw a bod yn amyneddgar. Rhaid cofio hefyd am y bobl sydd wedi colli aelodau o’u teuluoedd i afiechyd erchyll y Coronafeirws, alla i ddim dychmygu yr hyn y maent wedi ei ddioddef. Mae fy nghydymdeimlad llwyr gyda nhw.

Rhyfedd fel ma pethe yn gweithio allan er gwaetha’r ffaith fy mod ar ochr arall y byd. Mae’r gwaith yn parhau ac mae’r rhyngrwyd wedi dangos y gall unrhyw beth gael ei gyflawni, ble bynnag rydych chi yn y byd. Yn rhinwedd fy swydd fel Swyddog Datblygu gyda Cered (Menter Iaith Ceredigion), dwi wedi bod yn cyfrannu deunydd at dudalennau cyfryngau cymdeithasol Cered, er enghraifft gwneud fideos gyda help Noi a Yanisha am fywyd a diwylliant yng Ngwlad Thai a’u cymharu gyda Cymru – pethe sydd yn debyg a phethe sy’n wahanol. Eu llwytho wedyn ar dudalen Facebook Cered a Cica Corona (cliciwch ar Cered neu Cica Corona ar Facebook i’w gweld!). Yna, cyfarfodydd a gweithgareddau ar Zoom, sydd ymhlith pethe eraill yn cynnwys Bore Coffi Cymraeg Penparcau. Rydym yn cwrdd ar Zoom pob bore Llun am 10 o’r gloch. Gwneir hyn ar y cyd gyda Fforwm Cymunedol Penparcau.

Er gwaetha’r sefyllfa anesmwyth rydym yn ei hwynebu, mae bywyd, er yn syreal, wedi bod yn dda i ni yng Nglwad Thai. Rydym yn aros yn nhŷ rhieni Noi ac erbyn hyn mae’n ail gartre i ni. Ma fe di bod yn grêt i Noi dreulio cyfnod hir gyda’i theulu a hefyd mae’r profiad wedi bod yn ffantastig i Yanisha. Mae Yanisha’n rhugl yn y tair iaith – Cymraeg, Thai a Saesneg. Nôl yng Nghymru, dim ond gyda Noi mae’n cael cyfle i siarad Thai. Yng Ngwlad Thai mae’n siarad Thai gyda Yai a Po (Mamgu a Thadcu), ei chefndryd a’i chyfnitherod, ei ffrindiau, yn syml – gyda phawb! Mae wedi ei boddi yn yr iaith! Hefyd, mae’r cyfnod yma wedi rhoi cyfle i Noi ddysgu Yanisha sut i ysgrifennu mewn Thai sydd yn ysgrifen hollol wahanol i’n hysgrifen ni yng Nghymru. (Mae’r wyddor Thai gyda llaw yn cynnwys 48 llythyren i’w gymharu â dim ond 28 yn y Gymraeg!). O ran fy hunan, yn ogystal â gweithio i Cered, dwi wedi dysgu sut i yrru beic modur (neu drio!), darllen llyfrau, gwylio House of Cards ar Netflix (dwi’n hollol gaeth yn ei wylio!) yn ogystal â cheisio dysgu mwy o iaith Thai.

O ran sefyllfa’r coronafeirws fan hyn, nid yw hi cynddrwg â Chymru a gweddill Prydain. Mae tua 3000 o bobl wedi dal yr afiechyd gyda dros 60 wedi marw. Mae pawb yma yn wyliadwrus iawn. O ran y rheolau, rhaid i chi wisgo mwgwd gwyneb (facemask) ac os nad ydych yn gwneud, fe gewch chi ddirwy sylweddol. Mae pawb yn eu gwisgo – pawb! Os ydych am ymweld â’r archfarchnad a’r rhan fwyaf o’r siopau bach a’r marchnadoedd traddodiadol, cyn cael mynediad maent yn gwirio eich tymheredd. Os ydych dros 37 gradd, ni chewch chi fynediad – mae mor syml â hynny! Roedd yna waharddiad llwyr ar werthu alcohol trwy’r wlad ym mis Ebrill. Y rheswm am hyn oedd i stopio dathliadau yn ystod Gŵyl Songkran a hefyd stopio partïon yn gyffredinol er mwyn atal grwpiau mawr rhag cwrdd. Fe ufuddhaodd pawb i’r rheol heblaw efallai am ambell barti a gynhaliwyd gan yr ‘ex-pats’ a thwristiaid ym Mhattaya a Phuket – rhoddodd yr heddlu Thai derfyn ar hynny yn ddi-ffwdan. Mae yna gyrffiw rhwng 10pm a 5am – neb i fynd allan yn gyhoeddus ac os ydych yn torri’r rheol yma fe gewch chi ddirwy enfawr (dim jyst £30!) neu garchar posib. Eto, pawb yn ufuddhau i’r rheol – pawb!!!

Nid yw’r wlad dan glo yn yr un modd â Phrydain – mae yna groeso i chi ymweld â llefydd a theuluoedd, ffrindiau ayb, ond mae pawb yn defnyddio ‘synnwyr cyffredin’ ac yn ofalus iawn a threfnus. Un o’r rhesymau efallai pam fod y niferoedd sydd yn dioddef o’r clefyd yma yn is o’i gymharu â gwledydd eraill?

O edrych ar y dyfodol, s’neb yn gwybod beth sydd yn mynd i ddigwydd. Y diweddara o ran ein sefyllfa ni yw fod awyren yn hedfan nôl i Heathrow ar y 15fed o Orffennaf, 4 mis yn union ers i ni gyrraedd Gwlad Thai. Cawn weld a gobeithio’r gorau!

Un peth dwi’n wybod erbyn heddiw yw fod Gwlad Thai yn ail wlad i mi. Rwy’n Gymro 100% a Chymru fydd wastad yn dod yn gynta ond rwyf hefyd wedi cwympo mewn cariad â gwlad arall am yr un rhesymau rwyf mewn cariad â Chymru – y bobl, y diwylliant, yr iaith, y croeso. A Gŵyl Songkran? Fe fydd yna gyfle eto yn y dyfodol….

Diolch am gymryd yr amser i ddarllen hwn.

Khabkhun thi sla wela sing ni

(Cap cwn to sala an sing ni)

Rhodri Francis

Swyddog Datblygu Cered (Menter Iaith Ceredigion)

 

GWEITHGAREDDAU CERED

Bore Coffi Cymraeg ar Zoom (ar y cyd gyda Fforwm Cymunedol Penparcau Cyf)

Pob Dydd Llun am 10yb

I ymuno , logiwch ar Zoom: 2111051598

Cyfrinair: 6PuyuV

Croeso i bawb ymuno o bob cwr o’r sir yn Gymry Cymraeg a dysgwyr!

 

Cyfeiriad tudalen Facebook Cered:

@ceredmenteriaith

(neu teipiwch mewn Cered- Menter Iaith Ceredigion)

Cyfeiriad tudalen Facebook Cica Corona:

@cicacorona(neu teipiwch mewn Cica Corona)