YN FYW: Clera Ceredigion

Dyma blog byw o daith Arad Goch yn cyflwyno eich straeon chi yn eich ardal chi 

Arad Goch
gan Arad Goch

Mae CLERA Ceredigion wedi cychwyn ac ar y ffordd i bentrefi a threfi o amgylch y sir. Cadwch lygaid allan yn eich ardal chi i weld os fydd y cymeriadau yn mynd heibio ?

Ar y wefan hon fe fydd y cyfle gyda chi i ymateb a cynnig eich straeon chi o’ch ardal chi.

Dilynnwch y blog am y pum wythnos nesaf i weld a fydd Arad Goch yn dod i chi.

10:38

DIWRNOD YN Y GWYNT!

Doedd y tywydd ddim ar ei orau ar ddiwrnod olaf y daith ond roedd yn wych bod galla cwblhau’r daith!

Gyda pherfformiadau yn Aberaeron a Thalybont, diolch i bawb a ddaeth allan i wylio diwedd prosiect anghoel!

10:54

DYNA’R DIWEDD!

Ar ôl dau fis o waith caled mae’r daith wedi dod i ben!?

Diolch i bawb a ddaeth i Aberaeron a Thalybont ddoe ac i bawb am ddilyn y daith dros yr wythnosau diwethaf.

Mae wedi bod yn waith caled ond rydyn ni gyd wir wedi mwynhau pob eiliad. Gobeithio cawn ni deithio’r gwaith yma i chi cael gweld unwaith eto ☺️

11:20

DYMA’R DIWEDD

Diolch i bawb yn Llanybydder a Chastell Newydd Emlyn ddoe am y croeso!

Ymunwch â ni ar DDIWRNOD OLAF CLERA! Gydag Aberaeron am 1y.h, Rhydypennau am 4y.h a Thalybont am 5y.h, gobeithio fe fydd y glas yn gadael i ni eich diddanu am un tro arall!

15:29

DIM OND CHYDIG SY’ AR ÔL!

Cofiwch ymuno â ni yfory am 1y.h yn Llanybydder a 4y.h yng Nghastell Newydd Emlyn!

Dim ond ychydig o gyfleoedd sydd ar ôl i weld y cynhyrchiad felly dewch yn llu!?

15:06

LLUNIAU CLERA

Nes i chi weld Clera unwaith eto, ewch i wefan Arad Goch a BroAber360 i ddilyn y daith o’r cychwyn a gweld lluniau o’ch ardaloedd chi!

11:07

WYTHNOS OLAF CLERA

Rydym wedi cyrraedd yr Wythnos olaf o’r cynhyrchiad gwych yma!

Mae dal cyfle i chi weld y cynhyrchiad Dydd Iau yn Llanybydder a Chastell Newydd Emlyn. Wedyn ar Ddydd Gwener yn Aberaeron, Rhydypennau a Thalybont!

09:49

Dim Clera ?

Yn anffodus does na ddim Clera am weddill yr wythnos ?

Ond ymunwch a ni am wythnos olaf y daith dydd Mawrth nesaf yn Aberystwyth! 

11:10

CLERA

MWY O LUNIAU!

A nawr mae’n amser i weld lluniau o Bontrhydfendigaid! ?

11:00

LLUNIAU HYN YN ?

Does dim byd tebyg ar edrych ar y lluniau anhygoel hyn!

Diolch i bawb yn Llanbadarn Fawr a Phontrhydfendigaid am ddod i weld ni ddoe!

Dyma lluniau o’ch cymunedau brydferth. Yn gyntaf…… Llanbadarn Fawr! ??

09:37

DIWRNOD OLAF…… AM NAWR!?

Dewch lawr i Landysul am 1y.h a Threfechan am 5:30y.h heddi i weld Clera! ?

Heddi yw’r diwrnod olaf am yr wythnos hon ond fe fydd dal cyfle gyda chi i weld perfformiad wythnos nesaf ☺️