YN FYW: Clera Ceredigion

Dyma blog byw o daith Arad Goch yn cyflwyno eich straeon chi yn eich ardal chi 

Arad Goch
gan Arad Goch

Mae CLERA Ceredigion wedi cychwyn ac ar y ffordd i bentrefi a threfi o amgylch y sir. Cadwch lygaid allan yn eich ardal chi i weld os fydd y cymeriadau yn mynd heibio ?

Ar y wefan hon fe fydd y cyfle gyda chi i ymateb a cynnig eich straeon chi o’ch ardal chi.

Dilynnwch y blog am y pum wythnos nesaf i weld a fydd Arad Goch yn dod i chi.

18:24

DIOLCH LLANBADARN FAWR!

Diolch i bawb a ddaeth i weld y ddau berfformiad yn Llanbadarn Fawr heddi. 

Dal cyfle i weld Clera ym Mhontrhydfendigaid heno am 6:30!

17:04

Mae gweld lluniau fel hyn yn dangos cefnogaeth gwych o gymunedau Ceredigion!

Diolch i bobl Llanarth, Llandysul a Phontsian am ddod i weld ni ddoe! 

10:00

DIWRNOD ARALL!

Diwrnod arall o deithio…. Diwrnod arall o Clera! ??

Dewch i Llanbadarn Fawr am 2y.h a 3:30y.h. Gallwch wylio ni hefyd ym Mhontrhydfendigaid am 6:30y.h! 

#Clera

11:29

LLUNIAU DYDD SADWRN!

Gyda pherfformiadau gwych yn y tywydd braf dydd Sadwrn, mae’r lluniau Urien Morgan unwaith eto yn dangos prydferthwch Ceredigion. ☺️

Yma mae gennym ni lluniau o Henllan, Tregaron a Langeitho.

09:54

WYTHNOS 5!

Rydyn ni wedi cyrraedd y pûmes wythnos o daith Clera!

Gyda dim on 3 diwrnod o berfformiadau mae tipyn llai o berfformiadau, ond ma e dal digon o gyfleoedd i chi gwylio Clera yn eich ardal chi!

Dyma’r amserlen!

Dydd Llun 19/07 – 1 – 2y.h – Llanarth

Dydd Llun 19/07 – 3 – 3y.h – Llandysul

Dydd Llun 19/07 – 5:45 – 6:30y.h – Pontsian

Dydd Mawrth 20/07 – 2 – 3y.h – Llanbadarn Fawr

Dydd Mawrth 20/07 – 3:30 – 5:30y.h – Llanbadarn Fawr

Dydd Mawrth 20/07 – 6:30 – 7:30 – Pontrhydfendigaid

Dydd Mercher 21/07 – 1 – 3y.h – Llandysul

Dydd Mercher 21/07 – 5:30 – 7:30y.h – Trefechan

09:08

Diolch Aberteifi!

Roedd y dref yn brysur iawn ddoe ac roedd yn wych i fod gallu perfformio i gymaint o bobl! ?

Rydyn ni nôl heddi unwaith eto! Os ydych chi am weld theatr ar eich dydd Sadwrn dewch i Henllan am 11y.b, Tregaron am 2y.h a Llangeitho am 5y.h! ?

07:53

BLE NESA?!

Diolch i bawb a ddaeth i Dalgarreg a Phenrhyncoch ddoe! 

Gyda’r tywydd yn braf fe fyddwn ni allan unwaith eto heddi yn….. ??

Aberteifi! ?

09:29

Diolch i bawb a ddaeth i Lanilar a Llanfihangel y Creuddyn ddoe!


Heddi, byddwn ni yn Nhalgarreg am 2y.h a Phenryncoch am 4:30y.h felly dewch i wrando ar beth caneuon ac ymunwch yn y canu! ?

17:14

DIOLCH CEI NEWYDD!?

Weloch chi ni yng Nghei Newydd?! ?

Os na, dewch i Lanilar a Llanfair y Creuddyn heno i weld Clera!

11:30

Pawb yn joio!

Diolch i bawb yn Llanbedr Pont Steffan a ddaeth i wylio prynhawn ‘ma!

Dilynwch ni yfory tra byddwn ni’n teithio i Gei Newydd am 2y.h a Llanilar am 5y.h! Dewch draw i weld ni!