YN FYW: Clera Ceredigion

Dyma blog byw o daith Arad Goch yn cyflwyno eich straeon chi yn eich ardal chi 

Arad Goch
gan Arad Goch

Mae CLERA Ceredigion wedi cychwyn ac ar y ffordd i bentrefi a threfi o amgylch y sir. Cadwch lygaid allan yn eich ardal chi i weld os fydd y cymeriadau yn mynd heibio ?

Ar y wefan hon fe fydd y cyfle gyda chi i ymateb a cynnig eich straeon chi o’ch ardal chi.

Dilynnwch y blog am y pum wythnos nesaf i weld a fydd Arad Goch yn dod i chi.

15:06

LLUNIAU CLERA

Nes i chi weld Clera unwaith eto, ewch i wefan Arad Goch a BroAber360 i ddilyn y daith o’r cychwyn a gweld lluniau o’ch ardaloedd chi!

11:07

WYTHNOS OLAF CLERA

Rydym wedi cyrraedd yr Wythnos olaf o’r cynhyrchiad gwych yma!

Mae dal cyfle i chi weld y cynhyrchiad Dydd Iau yn Llanybydder a Chastell Newydd Emlyn. Wedyn ar Ddydd Gwener yn Aberaeron, Rhydypennau a Thalybont!

09:49

Dim Clera ?

Yn anffodus does na ddim Clera am weddill yr wythnos ?

Ond ymunwch a ni am wythnos olaf y daith dydd Mawrth nesaf yn Aberystwyth! 

11:10

CLERA

MWY O LUNIAU!

A nawr mae’n amser i weld lluniau o Bontrhydfendigaid! ?

11:00

LLUNIAU HYN YN ?

Does dim byd tebyg ar edrych ar y lluniau anhygoel hyn!

Diolch i bawb yn Llanbadarn Fawr a Phontrhydfendigaid am ddod i weld ni ddoe!

Dyma lluniau o’ch cymunedau brydferth. Yn gyntaf…… Llanbadarn Fawr! ??

09:37

DIWRNOD OLAF…… AM NAWR!?

Dewch lawr i Landysul am 1y.h a Threfechan am 5:30y.h heddi i weld Clera! ?

Heddi yw’r diwrnod olaf am yr wythnos hon ond fe fydd dal cyfle gyda chi i weld perfformiad wythnos nesaf ☺️

18:24

DIOLCH LLANBADARN FAWR!

Diolch i bawb a ddaeth i weld y ddau berfformiad yn Llanbadarn Fawr heddi. 

Dal cyfle i weld Clera ym Mhontrhydfendigaid heno am 6:30!

17:04

Mae gweld lluniau fel hyn yn dangos cefnogaeth gwych o gymunedau Ceredigion!

Diolch i bobl Llanarth, Llandysul a Phontsian am ddod i weld ni ddoe! 

10:00

DIWRNOD ARALL!

Diwrnod arall o deithio…. Diwrnod arall o Clera! ??

Dewch i Llanbadarn Fawr am 2y.h a 3:30y.h. Gallwch wylio ni hefyd ym Mhontrhydfendigaid am 6:30y.h! 

#Clera

11:29

LLUNIAU DYDD SADWRN!

Gyda pherfformiadau gwych yn y tywydd braf dydd Sadwrn, mae’r lluniau Urien Morgan unwaith eto yn dangos prydferthwch Ceredigion. ☺️

Yma mae gennym ni lluniau o Henllan, Tregaron a Langeitho.