Y môr, amaethyddiaeth a mwyngloddio – hanes gogledd Ceredigion drwy gofnodion un teulu

Hanes gogledd Ceredigion drwy gofnodion pedair cenhedlaeth o’r un teulu

gan Gwenllian Jones

Mae llyfr newydd a gyhoeddir gan y Lolfa, Land of Lead, yn olrhain stori ac atgofion pedair cenhedlaeth o’r un teulu, o’r 19eg ganrif i ganol y 1960au. Casglwyd yr hanes o gofnodion manwl y teulu, gan gynnwys llyfr nodiadau, cardiau post a anfonwyd adre yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a nodiadau a wnaed gan hen ewythr wrth iddo weithio ar reilffordd gul Dyffryn Rheidol. Mae’r darlun yma o un teulu o ogledd Ceredigion wedi’i gyflwyno gan un o’r disgynyddion, Brian Davies, sy’n wreiddiol o Benrhyn-coch, ger Aberystwyth.

Meddai’r awdur Brian Davies:

“Mae fy nheulu ar y ddwy ochr yn hanu o Aberystwyth a’r ardal o gwmpas. Rwy’n lwcus iawn fod cymaint o dystiolaeth ddogfennol wedi goroesi, sy’n rhoi golwg manwl ar hanes y teulu a’r ardal. Mae cof gwerin ar lafar, sy’n prysur ddiflannu wrth i fy nghenhedlaeth i ddiflannu, yn sail bellach i helpu i ddadansoddi a deall y cofnodion yma.”

Yn Land of Lead ceir cipolwg ar hanes cymdeithasol, economaidd a gwerinol gogledd Ceredigion yn ystod cyfnod o newidiadau mawr. Mae’r stori hefyd yn cyffwrdd â hanes Aberystwyth a’r ardal o amgylch y dref, gan roi sylw i amaethyddiaeth, mwyngloddio a’r cysylltiad â’r môr. Yn ogystal â hynny, mae’r gyfrol yn cynnwys detholiad o luniau dyfrlliw o’r 19eg ganrif gan y Capten William James. Mae’r lluniau hyn, sy’n cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf erioed, yn dangos hanes llongau hwylio Aberystwyth a gweithgarwch arall yn gysylltiedig â’r môr.

“Mae’r dolenni rhwng sawl cenhedlaeth o’r teulu, o ddirywiad gweithgareddau morol a’r diwydiant mwyngloddio i sefydlu’r rheilffyrdd, yn enwedig rheilffordd gul Dyffryn Rheidol, yn gofnod hanesyddol o ddigwyddiadau sydd wedi cael cryn effaith ar yr ardal,” meddai Brian Davies.

Mae Land of Lead yn olrhain hanes y Capten William James (1842–1917) yng nghyd-destun hanes Aberystwyth fel porthladd, yn ogystal â hanes ei fab, William Richard James (1895–1968), a’i wasanaeth milwrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gyda’r Egyption Expeditionary Force.

Magwyd tad yr awdur, John David Davies (1876–1942), yn Lledrod, ac er gwaethaf pob ymdrech i osgoi hynny, bu’n rhaid i John weithio fel mwynwr plwm yng Ngheredigion cyn cael ei orfodi i adael ei deulu i weithio yng nglofeydd de Cymru yn sgil dirywiad y mwynfeydd plwm.

Gweithiodd Isaac Jenkins (1833–1966) ar y rheilffordd gul o Aberystwyth i Bontarfynach, ffordd a adeiladwyd er mwyn cludo mwyn plwm yn fwy effeithlon i borthladd y dref.

“Un cofnod cymdeithasol a hanesyddol ymhlith nifer sydd eisoes wedi’u colli, neu ar fin cael eu colli, yw hwn, sy’n ein helpu ni i ddeall pwy ydyn ni. Rwy’n gobeithio bydd y stori yn rhoi cipolwg ar ychydig o hanes gogledd Ceredigion ac yn ychwanegu at y cofnodion hanesyddol a chymdeithasol sydd gennym. Rwy’n gobeithio gadael y lluniau a’r llyfr nodiadau morol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn y gobaith y bydd y gwrthrychau yma yn fwy dealladwy ac arwyddocaol ar ôl eu cyfuno â thystiolaeth gyd-destunol.”

Mae Land of Lead gan Brian Davies ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol am £9.99.

 

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.