Swper-Grŵp Gwyddelig Gymreig yng Ngheredigion am y tro cyntaf

Diddanwyd cynulleidfa Sesiwn Nos Wener yn y Llew Du yn Nhalybont ar nos Wener, 24ain o Ionawr 2020.

Mererid
gan Mererid

Diddanwyd cynulleidfa Sesiwn Nos Wener yn y Llew Du yn Nhalybont ar nos Wener, 24ain o Ionawr 2020. Band newydd o Ynys Môn yw Traedmochmon, sydd yn cynnwys Lawrence Roberts, Yvonne Roberts, Craig Thomas, yr actor Llion Williams, a Ger Môn.

Maent yn arbenigo mewn cerddoriaeth werin Wyddelig a Chymreig, a chafwyd noswaith fendigedig.

Mae Sesiwn Nos Wener, neu fel oedd hi’n arfer cael ei adnabod, Clwb Nos Wener, yn cynnal nosweithiau gwerin, llen, barddol a cherddorol y naill fis neu’r llall naill ai yn Dafarndai’r Llew Gwyn neu’r Llew Du. Mae’r arlwy wedi amrywio dros y blynyddoedd gan gynnwys artistiaid megis Gai Toms, Al Lewis, Mair Tomos Ifans, Elin Fflur, 9Bach, Steve Eaves, Siddi a Gareth Bonello. Criw bychan sydd yn rhedeg y nosweithiau, ac yn dewis pa artistiaid maen nhw eisiau gweld yn chwarae. Mae’r criw yn ddigon ffodus i dderbyn cymorth ariannol o dan gynllun Noson Allan, Cyngor Celfyddydau Cymru.

Maent hefyd yn ddiolchgar am y croeso cynnes (a’r bwyd) yn y Llew Du yn Nhalybont.

Bydd dyddiau’r nosweithiau nesaf ar gael ar galendr digwyddiaddau BroAber360.