Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd yn poeni am yr argyfwng sy’n wynebu’r sector treftadaeth Cymru yn sgil y coronafeirws.

Mae’r sector yn cynnwys y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth sydd yn wynebu colli 95% o’i incwm.

Mae’r pwyllgor wedi rhybuddio gall sefydliadau o fewn y sector wynebu “ergyd farwol”.

“Yn sgil y cyfnod clo, cafodd ein safleoedd treftadaeth, amgueddfeydd ac archifau eu cau ar unwaith”, meddai’r pwyllgor.

“Roedd y golled incwm yn sgil gwerthu tocynnau, siopau, caffis, llogi preifat, digwyddiadau ac aelodaeth yn sylweddol. I sefydliadau llai, gallai fod yn ergyd farwol.

“Rydym wedi clywed gan nifer o sefydliadau bod eu hincwm masnachol yn annhebygol o ddychwelyd i’w lefel cyn y pandemig am nifer o flynyddoedd.”

‘Gostyngiad sylweddol iawn yn ein gweithlu’

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru wth y pwyllgor bod y Llyfrgell yn wynebu colli 95% o’i hincwm masnachol o ganlyniad i COVID-19, a allai arwain at golledion sylweddol.

“Mae’r her ariannol ar hyn o bryd yn sylweddol iawn, i ddweud y gwir”, meddai.

“Mi rydym ni rŵan yn edrych ar fod £1.2 miliwn yn brin yn ein refeniw erbyn diwedd y flwyddyn yma.

“Rydym ni’n ceisio cael trafodaeth gyda Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, ond rydym ni yn rhagweld os na fydd y trafodaethau yna yn llwyddiannus, y gallem ni fod yn gweld gostyngiad sylweddol iawn yn ein gweithlu o’r flwyddyn newydd ymlaen.”

Mae Amgueddfa Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd wedi dweud fod y cyfnod clo wedi cael “cryn effaith” ar eu hincwm masnachol.

Mae’r Pwyllgor wedi galw ar Lywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i barhau â’r Cynllun Cadw Swyddi sydd wedi ei ddefnyddio ar draws y sector.

Mae’r pwyllgor wedi rhybuddio os daw’r cynllun i ben, y bydd risg o ddiswyddiadau.

Mae’r staff sydd ar gynllun cadw swyddi’r Llywodraeth yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru fel y canlyn:

  • 80% – Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • 25% – Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • 40% – Amgueddfa Genedlaethol Cymru

‘Risg sylweddol’

“Mae ein hamgueddfeydd, ein harchifau a’n safleoedd treftadaeth yn rhan o’r hyn sy’n gwneud Cymru yn wlad wych i fyw ac ymweld â hi, ond maen nhw i gyd yn wynebu risg difrifol yn sgil COVID-19”, meddai Helen Mary Jones AS, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

“Bu bron i’w hincwm ddiflannu’n llwyr yn ystod y cyfyngiadau symud ac mae llawer o staff wedi eu rhoi ar ffyrlo.

“Er i’r cynllun ffyrlo helpu yn y tymor byr, mae’n bosibl y bydd nifer o’r sefydliadau hyn yn wynebu diswyddiadau pan ddaw’r cynllun ffyrlo i ben.

“Yn ystod yr ymchwiliad, rydym wedi clywed gan nifer o sefydliadau bod eu hincwm masnachol yn annhebygol o ddychwelyd i’w lefel cyn y pandemig am nifer o flynyddoedd.

“Felly, galwn unwaith eto ar Lywodraeth Cymru i annog Trysorlys Llywodraeth y DU i barhau â’i gynllun ffyrlo y tu hwnt i fis Hydref 2020.

Cymorth o’r pwrs cyhoeddus

Ar Orffennaf 5 lansiodd Llywodraeth Prydain gronfa £1.57 biliwn i gynorthwyo sefydliadau diwylliant a threftadaeth hanfodol gan gynnwys £59 miliwn i Gymru.

Hefyd ar Orffennaf 30 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gronfa £53 miliwn  i ‘ddarparu cefnogaeth hanfodol i theatrau, orielau, lleoliadau cerdd, safleoedd treftadaeth, amgueddfeydd, orielau, gwasanaethau archif, digwyddiadau a gwyliau, a sinemâu annibynnol’.

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i “ddefnyddio pob ceiniog” o’r £59 miliwn o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Prydain i gefnogi’r sectorau treftadaeth, celfyddydau a diwylliant.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Casgliadau ar agor, er gwaethaf drws yng nghau (tan Wanwyn 2021)

Mererid

Cyhoeddodd y Llyfrgellydd fod modd cael mynediad i’r Llyfrgell yn ddigidol neu yn y gymuned