Cofio Dada

Lyn Ebenezer sy’n talu teyrnged i un o hoelion wyth ei fro, a fu farw’n ddiweddar – Lloyd ‘Lucas’.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Clwb Pêl-droed BontOwain Schiavone

Clwb Pêl-droed Bont – gyda Lloyd ar y chwith yn y siwt

Mae ardal y Bont a Ffair Rhos yn enwog am ei llysenwau. Yn wir, does yna’r un brodor heb enw amgen. Cymerwch William Lloyd Thomas. Dyna’i enw bedydd. Ond prin y gwnai neb ei adnabod wrth yr enw hwnnw. Na, Lloyd Bwlchgwynt fyddai’n lleol. Y tu allan i’r fro, Lloyd Bont oedd e, neu Lloyd Lucas. Ac i genedlaethau o chwaraewyr a chefnogwyr Clwb Pêl-droed y Bont, Dada oedd e.

Lloyd Bwlchgwynt

Yn fab i William Cadwgan a Mary Thomas, treuliodd ei blentyndod a’i ieuenctid ym Mlwchgwynt, nad yw ‘ond tôn y botel daith i sgwâr Ffair Rhos.’ Yn un o dri o blant, collodd frawd, Cadwgan, yn ddyn ifanc gan ei adael ef a’i chwaer Mair. Bu’r enw bedydd ‘Cadwgan’ yn rhan o bob cenhedlaeth o’r teulu ers cyn cof. Dyna oedd enw’i dad-cu, ei dad, ei frawd  a’i fab, cannwyll llygad Lloyd a’i briod Gwenda.

Etifeddodd ffraethineb ei rieni. Roedd gan Mary Thomas, yn arbennig, gof eithradol ynghyd â geirfa unigryw. Cymerwch rywun sydd dda i ddim. Dyma, i Lloyd, ‘etifedd heble’. Gofynwyd iddo unwaith i ba enwad y perthynai? Ai Methodist? Ai Bedyddiwr? Ei ateb oedd, ‘Na, y Stay-at-homiaid!’

Lloyd Bont

Roedd Lloyd yn un o aelodau ffyddlon criw a gaent eu hadnabod fel Bois y Bont. Yn hen Austin Sixteen Wil Lloyd y Garej, doedd yna’r un gyrfa chwist, cyngerdd nac eisteddfod o fewn 50 milltir na fyddai Bois y Bont yno. Gwasgai tuag wyth ohonynt i mewn i’r Lefiathan pedair olwyn. Y gyrrwr a’r symbylydd oedd Dic Davies, neu Dic Bach, llysenw a fabwysiadodd nid am ei fod e’n fach ond am ei fod e’n anferth. Trodd Bois y Bont yr arferiad o heclan eisteddfodol yn gelfyddyd.

Lloyd Lucas

Lloyd Lucas wedyn. Cafod yr enw hwnnw am iddo dreulio bron yr oll o’i oes waith yn gweithio i’r cwmni trydan ceir hwnnw yn Aberystwyth. Fu neb erioed yn barotach ei gymwynasau. Synnwn i ddim na wnaeth Lloyd fwy o’i waith trydanol ar geir y tu allan i oriau gwaith, a hynny’n ddi-dâl.

O’i blentyndod, bu Lloyd yn gefnogwr brwd i Glwb Pêl-droed Y  Bont. Yn wir, am ddegawdau, ef OEDD Clwb y Bont. A dyna darddiad y llysenw ‘Lloyd Bont’. Ni fu’n chwaraewr, ond ef fyddai’r llumanwr, ac weithiau, pan na wnai dyfarnwr fedru cyrraedd Parc Pantyfedwen, byddai’n  cymryd at y whisl. Yn wir, tystia amryw i Lloyd ennill mwy o bwyntiau i’r Bont na’r un ymosodwr.

Un tro, ag yntau’n dyfarnu gêm rhwng y Bont a Choleg Aber, roedd y tîm cartref 2 – 1 ar y blaen. Roedd dwy funud o’r gêm yn weddill pan drawodd ymosodwr y Coleg, Bob Wheeler daran o gic oedd yn anelu at gornel y rhwyd. Ond eiliad cyn iddi groesi’r lein, fe chwibanodd Lloyd am ddiwedd y gêm.Triphwynt i’r Bont!

Dro arall, bu’n rhaid i Lloyd wynebu panel o’r Gymdeithas Bêl-droed  am regi chwaraewr o’r tîm arall. Amddiffyniad Lloyd oedd mai dim ond Cymraeg a siaradai, ac nad oedd yna regfeydd yn bod yn iaith y Nefoedd. Cyrhaeddodd y stori’r ‘News of the World’ o dan y pennawd, ‘Lloyd the Line’.

Dada

Ond y llysenw mwyaf addas ar Lloyd oedd ‘Dada’. Dyna sut wnai chwaraewyr a chefnogwyr y Bont ei adnabod. Enw perffaith. Roedd Lloyd fel tad iddynt oll.

Yn y saithdegau, ag yntau wedi symud i Benparcau, dechreuodd gymell rhai o fyfywryr Cymraeg y Coleg i chwarae i’r Bont. Pan ddigwyddai gyfarfod â myfyriwr Cymraeg, y cwestiwn cyntaf fyddai, ‘Wyt ti’n digwydd whare ffwtbol?’ Roedd rhai o’r bechgyn hyn yn byw mor bell â Llangefni neu Abertawe. Ond adeg gwyliau Coleg, a’r bechgyn gartref, gyrrai  Lloyd i’w nôl a mynd a nhw adre wedi’r gêm. Ymhlith y rhain roedd Mei Jones a Bryn Fôn. A thystia amryw mai Lloyd oedd ‘prototype’ yr anfarwol Arthur Picton o ‘Cmon Midffîld!’

Gymaint fu gwasanaeth Lloyd a’i gyfaill mawr Ken Jones (un arall o fois Ffair Rhos yn wreiddiol) i Glwb y Bont fel i Gymdeithas Bêl-droed Cymru eu hanrhydedu am eu gwasanaeth i’r gêm brydferth.

Nid pêl-droed oedd ei unig ddiddordebau o ran chwaraeon. Bu’n  ddartiwr peryglus. A bu’n fowliwr. Nawr, gêm ddigon syber yw bowls. Ond ddim i Lloyd. Ef yw’r unig fowliwr wnes i ei glywed erioed yn bloeddio a bytheirio ar y lawntiau sidêt.

Mae tîm y Bont yn dal i chwarae. Cychwynodd y clwb yn 1947, ac mae’n siŵr fod Lloyd yno’n gwylio’r gêm gyntaf honno. Ni fu neb erioed yn ffyddlonach. Os deuai Lloyd Bwlchgwynt yn ffrind i chi, byddai’n ffrind am oes.

Ffarwel, Dada. Bu’n fraint cael bod yn ffrind i ti.

Lyn Ebenezer

3 sylw

Phil Davies
Phil Davies

Teyrnged hyfryd.

Owain Schiavone
Owain Schiavone

Teyrnged ardderchog Lyn – neb fel Lloyd ar ochr y cae, cymeriad unigryw a bydd colled ar ei ôl.

Gwyn Jenkins
Gwyn Jenkins

Un o’r hoelion wyth. Teyrnged ddifyr a hyfryd.

Mae’r sylwadau wedi cau.