Blog byw gan aelodau CFfI Ceredigion ar noson olaf wythnos #dramacardi – uchafbwyntiau pob noson, y feirniadaeth a’r canlyniadau.
- Clwb Ponstian yn mynd â hi ar ddiwedd yr wythnos, gyda CFfI Llangwyryfon yn ail a Chlwb Llangeitho yn drydydd
- Tri aelod oedd wedi sgriptio’r ddrama orau eleni (Endaf, Carwyn a Cennydd)
- Y beirniad Janet Aethwy yn canmol pob clwb am gystadlu ac yn annog pawb i fynd mas i berfformio eto yn eu cymunedau
Wel, Llongyfarchiadau MAWR i @CFfIPontsian ar cael ‘clean sweep’ yn y Ddrama heno. Da iawn chi @EndafGriffiths2 @CenJones @CarwynBlayney am ysgrifennu’r ddrama. ???? pic.twitter.com/8buQWU4Nfi
— Nia Wyn Davies (@NiaMaesglas) February 22, 2020
Mae cystadleuaeth ddrama CFfI Ceredigion 2020 wedi cael ei hennill gan sgripts a sgrifennwyd gan 3 o’r aelodau!
Wrth bawb yn Bro360, llongyfarchiadau mawr i Glwb Pontsian, a phawb sydd wedi bod wrthi’n cystadlu yr wythnos hon.
Y canlyniadau terfynol!
? Y canlyniadau terfynol!
6ed Clwb Felinfach (79 pwynt)
5ed Clwb Llanddewi Brefi (80 pwynt)
4ydd Clwb Troed-yr-aur (82 pwynt)
3ydd Clwb Llangeitho (84 pwynt)
2il Clwb Llangwyryfon (85 pwynt)
1af Clwb Pontsian (92 pwynt)
? Perfformiad technegol:
3ydd Clwb Felinfach
2il Clwb Mydroilyn
1af Clwb Troed-yr-aur
? Sgript gorau:
3ydd Clwb Llangeitho
2il Clwb Llangwyryfon
1af Clwb Pontsian
? Set gorau:
3ydd Clwb Tregaron
2il Clwb Felinfach
1af Clwb Pontsian
? Cynhyrchydd gorau:
3ydd Clwb Llangwyryfon
2il Dafydd a Mandi Morse, Clwb Llangeitho
1af Einir Ryder, Mererid Jones, Gareth Lloyd a Lisa Clwb Pontsian
? Actores orau:
3ydd Meleri Morgan, Llangeitho
2il Elin Calan, Llangwyryfon
1af Glesni Thomas, Pontsian