BLOG BYW: Dramâu CFfI Ceredigion

Megan Lewis
gan Megan Lewis

Blog byw gan aelodau CFfI Ceredigion ar noson olaf wythnos #dramacardi – uchafbwyntiau pob noson, y feirniadaeth a’r canlyniadau.

  • Clwb Ponstian yn mynd â hi ar ddiwedd yr wythnos, gyda CFfI Llangwyryfon yn ail a Chlwb Llangeitho yn drydydd
  • Tri aelod oedd wedi sgriptio’r ddrama orau eleni (Endaf, Carwyn a Cennydd)
  • Y beirniad Janet Aethwy yn canmol pob clwb am gystadlu ac yn annog pawb i fynd mas i berfformio eto yn eu cymunedau

23:37

? Set gorau:

3ydd Clwb Tregaron

2il Clwb Felinfach

1af Clwb Pontsian

23:35

? Cynhyrchydd gorau:

3ydd Clwb Llangwyryfon

2il Dafydd a Mandi Morse, Clwb Llangeitho

1af Einir Ryder, Mererid Jones, Gareth Lloyd a Lisa Clwb Pontsian

23:33

? Actores orau:

3ydd Meleri Morgan, Llangeitho

2il Elin Calan, Llangwyryfon

1af Glesni Thomas, Pontsian

23:32

? Actor Gorau:

3ydd Cennydd Jones, Pontsian

2il Huw Evans, Llangwyryfon

1af Endaf Griffiths, Pontsian

23:30

? Actores Orau 16 oed neu iau:

 

3ydd Lois Medi Jones, Tal-y-bont

2il Cari Davies, Tregaron

1af Megan Dafydd, Llangeitho

23:29

? Actor Gorau 16 oed neu iau:

3ydd Ifan Davies, Llanddeiniol

2il Noa Harries Caerwedros

1af Bleddyn Lleu Thomas, Felinfach

23:28

Un cyhoeddiad pwysig wedi’i wneud yma yr holl ffordd o Sir benfro – mae Tomos wedi ennill Aelod Hŷn Sir benfro!

23:28

A dyna ddiwedd y traddodi… canlyniadau nesa!

 

23:27

Tal-y-bont:

“Dechraru tawel o’i gymharu â’r dramâu erall, ond na’th hi ddim aros yn dawel am hir! Bach o ddiffyg disgyblaeth weithiau, ond roedd y bobol ifanc yn sicr yn cael hwyl yn y cartre hen bobol yma!”

23:26

Llanwenog:

“Perfformiad abl a hyderus gan Twm Ebbsworth yn y ffars hon, a diwedd yr araith yn gomic iawn. Hoff o olygfeydd y cwc. Pawb yn gweithio’n galed, ac ôl gwaith cyfarwyddo, ond efallai ein bod ni’n colli’r tensiwn o dro i dro.”