Blog byw gan aelodau CFfI Ceredigion ar noson olaf wythnos #dramacardi – uchafbwyntiau pob noson, y feirniadaeth a’r canlyniadau.
- Clwb Ponstian yn mynd â hi ar ddiwedd yr wythnos, gyda CFfI Llangwyryfon yn ail a Chlwb Llangeitho yn drydydd
- Tri aelod oedd wedi sgriptio’r ddrama orau eleni (Endaf, Carwyn a Cennydd)
- Y beirniad Janet Aethwy yn canmol pob clwb am gystadlu ac yn annog pawb i fynd mas i berfformio eto yn eu cymunedau
? Y canlyniadau terfynol!
6ed Clwb Felinfach (79 pwynt)
5ed Clwb Llanddewi Brefi (80 pwynt)
4ydd Clwb Troed-yr-aur (82 pwynt)
3ydd Clwb Llangeitho (84 pwynt)
2il Clwb Llangwyryfon (85 pwynt)
1af Clwb Pontsian (92 pwynt)
? Perfformiad technegol:
3ydd Clwb Felinfach
2il Clwb Mydroilyn
1af Clwb Troed-yr-aur
? Sgript gorau:
3ydd Clwb Llangeitho
2il Clwb Llangwyryfon
1af Clwb Pontsian
? Set gorau:
3ydd Clwb Tregaron
2il Clwb Felinfach
1af Clwb Pontsian
? Cynhyrchydd gorau:
3ydd Clwb Llangwyryfon
2il Dafydd a Mandi Morse, Clwb Llangeitho
1af Einir Ryder, Mererid Jones, Gareth Lloyd a Lisa Clwb Pontsian
? Actores orau:
3ydd Meleri Morgan, Llangeitho
2il Elin Calan, Llangwyryfon
1af Glesni Thomas, Pontsian
? Actor Gorau:
3ydd Cennydd Jones, Pontsian
2il Huw Evans, Llangwyryfon
1af Endaf Griffiths, Pontsian
? Actores Orau 16 oed neu iau:
3ydd Lois Medi Jones, Tal-y-bont
2il Cari Davies, Tregaron
1af Megan Dafydd, Llangeitho
? Actor Gorau 16 oed neu iau:
3ydd Ifan Davies, Llanddeiniol
2il Noa Harries Caerwedros
1af Bleddyn Lleu Thomas, Felinfach
Un cyhoeddiad pwysig wedi’i wneud yma yr holl ffordd o Sir benfro – mae Tomos wedi ennill Aelod Hŷn Sir benfro!