Aled Siop y Pethe yn trafod effaith COVID-19

Aled Rees sy’n trafod effaith coronafeirws ar ei fywyd a’i gwmnïau, yn rhan o’n cyfres #BusnesauBro

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae’r coronafeirws yn effeithio arnom i gyd mewn ffyrdd gwahanol, ac wedi ein gorfodi i newid ein ffyrdd o fyw, i hunanynysu ac efallai i fod yn fwy parod i wrando ar anghenion pobol mewn angen.

Mae rhai’n cyflogi gweithwyr, ac felly angen delio â’r effaith enfawr mae COVID-19 am ei chael ar eu bywydau nhw, a bywydau’r bobol maen nhw’n eu cyflogi.

Mae Aled Rees yn ddyn busnes cyfarwydd i bawb, bron, yn ardal Aberystwyth – mae’n berchen tri chwmni teithio (Teithiau Tango, Cambria DMC a Teithiau Cambria), Siop y Pethe, ac yn un  o bartneriaid bwyty Byrgyr, ac yn cyflogi wyth o bobl. Ar ben hyn i gyd, mae e hefyd yn hunanynysu am gyfnod o bythefnos.

Dyma Aled yn rhannu ei feddyliau am yr heriau mae busnesau’n eu hwynebu achos y coronafeirws, yn trafod ei gefndir yn gweithio yn Labordy Bronglais, ac yn edrych ar yr hyn mae’r Llywodraeth yn ei wneud yn ystod yr argyfwng hwn.

Ers i’r fideo ’ma gael ei ffilmio, mae Siop y Pethe wedi cau ei drysau nes ei bod hi’n ddiogel eu hailagor.

Wrth geisio ddod o hyd i ffurf o gwmpas y sefyllfa, mae Aled wedi galw ar fusnesau lleol i gyd-weithio, drwy gael gwefan newydd i’r gymuned – lle uniongyrchol i bobl archebu bwyd a nwyddau ar-lein i gael ei ddosbarthu. Gallwch weld pa fusnesau sydd yn dosbarthu bwyd yn fan hyn:

Dosbarthu bwyd a nwyddau yng ngogledd Ceredigion

Gohebydd Golwg360

Wrth i’r coronafeirws daro ein cymunedau, pwy sy’n cludo bwyd a nwyddau ar draws y fro?