Ailagor Safleoedd Gwastraff Cartref wedi mynd yn dda

Cyngor Sir: “Mae pethau wedi mynd yn dda hyd yn hyn, ac ni adroddwyd unrhyw broblemau sylweddol.”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Bro360

Arwyddion dros dro Safle Gwastraff Aberystwyth

Mae’r broses o ailagor Safleoedd Gwastraff Cartref wedi mynd yn dda yn ôl Cyngor Ceredigion.

Ail-agorwyd Safle Gwastraff Cartref Glanyrafon ger Aberystwyth wythnos diwethaf.

Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion: “Oherwydd y trefniadau newydd a roddwyd ar waith a chefnogaeth trigolion lleol, mae pethau wedi mynd yn dda hyd yn hyn, ac ni adroddwyd unrhyw broblemau sylweddol.

“Hoffai’r Cyngor a Caru Ceredigion ddiolch o galon i drigolion am weithio gyda ni a chwarae eu rhan yn hyn.”

Mae mynediad i’r holl safleoedd gwastraff yng Ngheredigion wedi’i gyfyngu at ddefnydd hanfodol yn unig, gyda cheir sydd ag eilrifau yn eu rhifau cofrestru yn ymweld ar ddyddiadau sy’n eilrifau, a cheir sydd ag odrifau yn eu rhifau cofrestru yn ymweld ar ddyddiadau sy’n odrifau.

Os gellir storio’r eitemau gwastraff yn ddiogel gartref neu os gellir eu casglu yn rhan o’r gwasanaeth casglu gwastraff domestig arferol, ni ddylai trigolion geisio ymweld â’r safleoedd.

Rhagor o fanylion am y rheolau sydd ar waith mewn Safleoedd Gwastraff Cartref yng Ngheredigion oherwydd pandemig Covid-19:

Canolfan ailgylchu Aberystwyth ymhlith canolfannau ailgylchu sydd yn ail agor 

Gohebydd Golwg360

Bydd rheol eilrif ac odrif yn cael ei ddefnyddio i leihau ciwiau.