Achos newydd yn nhref noir-aidd Aberystwyth i Dditectif Taliesin MacLeavy!

Mae’r ditectif Taliesin MacLeavy yn ôl – gydag achos newydd a phartner newydd…

gan Gwenllian Jones

Mae Richard Harrington, oedd yn portreadu Ditectif Mathias yn y gyfres Y Gwyll ar S4C (ac Hinterland ar y BBC), wedi canmol Ar Lwybr Dial gan ei disgrifio fel “nofel sy’n werth colli cwsg drosti.”

Dywed yr awdur Alun Davies, a fagwyd yn Aberystwyth ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. “Mae dylanwad fy magwraeth yn Aberystwyth yn gryf yn fy nofelau i – rydw i’n credu y gall y lleoliad fod fel cymeriad ychwanegol mewn storïau, ac mae canolbarth Cymru yn cynnig cymaint o ran tirlun, hanes a diwylliant. Rwy hefyd yn rhedwr brwd, ac mi fydda i’n treulio’r amser hynny yn datrys elfennau o’r stori yn fy meddwl – rydw i’n siŵr y byddai fy llyfrau i’n wahanol iawn petawn i wedi treulio f’amser i gyd yn eistedd ar bwys desg,”

Yn Ar Lwybr Dial, partnerir Taliesin gyda Siwan Mathews, ditectif profiadol sydd newydd ddychwelyd i’w gwaith ar ôl sawl blwyddyn yn magu teulu ifanc. Eu hachos cyntaf ydy ymchwiliad i sawl lladrad ym mhentref Y Borth. Mae’r ddau dditectif yn dod o hyd i gyrff hen gwpwl, wedi’u lladd yn eu cartref. Yn benderfynol o ddal yr un sy’n gyfrifol cyn i fwy farw, maen nhw’n mynd ati i chwilio i gefndir tywyll y pâr priod, cyn i dro yn y stori weld y llofrudd yn cysylltu gyda Taliesin a’r ditectif yn gorfod chwilio am atebion ynddo’i enaid ei hun. Wedi ei hadrodd o safbwynt Taliesin a Siwan, mae’r ddirgelwch gyffrous yn mynd â’r darllenwr ar daith lawn amheuon, cyfrinachau a llofruddiaethau erchyll.

“Rwy wedi bod yn gweithio ar stori’r ail nofel ers cyn i mi orffen Ar Drywydd Llofrudd ’nôl yn 2018. Mae’n wefr wahanol i ddatgelu stori newydd wrth datblygu mwy ar yr un cymeriadau. Rwyf wedi bod yn ffodus i gael adborth da wrth nifer o ddarllenwyr y nofel gyntaf, ac mi oedd yn bendant yn deimlad rhyfedd i ysgrifennu’r nofel hon gan wybod bod sawl un yn disgwyl amdani,” meddai Alun.

Dywed Tweli Griffiths yn y Western Mail Weekend “Mae holl nodweddion arferol Scandi-noir wedi eu plethu at ei gilydd yn y nofel hon mewn ffordd gywrain a chyfrwys hefyd. Fy mwriad oedd darllen hon dros gyfnod o ryw wythnos. Unwaith y dechreuais, wnes i ddim oedi tan y dudalen olaf. Dw i’n edrych ymlaen at y gyfrol nesaf.”

Adborth Gwenan Mared yng nghylchgrawn Barn oedd ei bod yn “Nofel seicolegol, tywyll, sy’n rhoi pwyslais ar greu awyrgylch ac edrych o dan yr wyneb yw’r rhain ac mae Alun Davies yn grefftus iawn yn creu’r ymdeimlad hwn…. Mae’n chwip o nofel gyntaf, sy’n cyrraedd diweddglo brawychus, ac roeddwn wedi llyncu abwyd y stori’n llwyr gan fwynhau’r ochr seicolegol a dod yn hoff iawn o’r ddau brif gymeriad.”

“Ro’n i wedi pasa ei darllen yn hamddenol, ond allwn i ddim. Roedd yn rhaid i mi ddal ati, gan anghofio fy ngwaith sgwennu a gwaith tŷ.” – Bethan Gwanas

Mae Ar Lwybr Dial gan Alun Davies ar gael nawr yn eich siopau llyfrau lleol. Yn Aberystwyth, cofiwch gefnogi Siop Inc a Siop y Pethe (Y Lolfa, £8.99).