Steve Eaves yn diddanu yn Nhal-y-bont

Fideo o’r rocar Steve Eaves – y diweddara’ i chwarae yn Sesiwn Nos Wener Tal-y-Bont

gan Medi James

Roedd Y Llew Du, Tal-y-bont dan ‘i sang nos Wener dwetha pan ddaeth y fythol ifanc Steve Eaves a Rhai Pobl atom.

Y canwr Steve Eaves

Cerddorion talentog yw’r ‘Rhai Pobl’,  sy o’i gwmpas a chyfeiriodd Steve at ba mor falch oedd o gael ei ‘ferch fach’ Manon Steffan, yn rhannu’r llwyfan ‘da fe.

Cawsom dwy awr a hanner o’r hen ganeuon a nifer oddi ar ei CD newydd.

Cyfeiriodd Steve am y cynifer o gigs, ers 1989, mae wedi eu cynnal yn Nhalybont naill ai yn Y Llew Gwyn neu’r Du.

Brysia nol Steve a dy ffrindiau.