Blog noson yr etholiad, sy’n dod yn fyw o’r cyfrif yng Nghanolfan Hamdden Aberaeron.
- Mwyafrif o dros 6,300 i Ben Lake yng Ngheredigion
- Y Torïaid yn dod yn ail
- Mark Williams yn cyhoeddi na fydd yn sefyll eto. “mae 20 mlynedd yn eitha’ digon” meddai.
Diolch Arthur, falch bo ti’n mwynhau’r cyfrej!
Un llygad ar y teli, y llall ar hwn Etholiad 2019 – Blog byw o’r cownt yng Ngheredigion – BroAber360 https://t.co/f1za6koPHS
— Arthur Dafis (@arthurdafis) December 13, 2019
Un llygad ar y teli, y llall ar hwn Etholiad 2019 – Blog byw o’r cownt yng Ngheredigion – BroAber360 https://t.co/f1za6koPHS
— Arthur Dafis (@arthurdafis) December 13, 2019
Wel, colli i’r Toriaid, yn amlwg. Oes rhaid gofyn?
— Nic Dafis ? (@nicdafis) December 13, 2019
Pawb symud i Ceredigion, Arfon a Gwynedd, Cyhoeddi Gweriniaeth Cymru. Lost all hope efo’r dwyrain at this point. #UptheRepublic
— Huw Meredydd (@huwdaviess) December 13, 2019
Tom Kendall – un o brif ymgyrchwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion – yn cyfaddef bod y noson yn “dorcalonnus” iddyn nhw yma.
“Ro’n ni’n positif ar ddechrau’r ymgyrch, ti’n gwbod, ond yn glou iawn doedd pethau ddim yn mynd yn dda iawn”.
Dyma ni i Mark Williams, medde fe. Mae’n annhebygol iawn y bydd e’n sefyll eto.
Dyw Mark heb gyrraedd y cyfrif yma eto, ac ry’n ni’n dal i ddisgwyl gweld Ben Lake ac Amanda Jenner.
“In my heart, Ben is my MP”
Dyna argraffiadau un o dîm y Gwyrddion.
Penparcau! Y blwch olaf i ddod mewn!
Caleb o’r cownt
Awgrym bach o pwy sy’n mynd â hi yng Ngheredigion, yn ôl y samplau ?
Unrhyw un ishe dyfalu’r mwyafrif?
Blychau pleidleisio yn dechrau dod i mewn o ardal Aberystwyth nawr – Tybed a fydd hyn yn cael effaith?