Etholiad 2019 – Blog byw o’r cownt yng Ngheredigion

gan Caleb Rees

Blog noson yr etholiad, sy’n dod yn fyw o’r cyfrif yng Nghanolfan Hamdden Aberaeron.

  • Mwyafrif o dros 6,300 i Ben Lake yng Ngheredigion
  • Y Torïaid yn dod yn ail
  • Mark Williams yn cyhoeddi na fydd yn sefyll eto. “mae 20 mlynedd yn eitha’ digon” meddai.

00:23

 

00:19

Tom Kendall – un o brif ymgyrchwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion – yn cyfaddef bod y noson yn “dorcalonnus” iddyn nhw yma.

“Ro’n ni’n positif ar ddechrau’r ymgyrch, ti’n gwbod, ond yn glou iawn doedd pethau ddim yn mynd yn dda iawn”.

Dyma ni i Mark Williams, medde fe. Mae’n annhebygol iawn y bydd e’n sefyll eto.

Dyw Mark heb gyrraedd y cyfrif yma eto, ac ry’n ni’n dal i ddisgwyl gweld Ben Lake ac Amanda Jenner.

00:12

“In my heart, Ben is my MP”

Dyna argraffiadau un o dîm y Gwyrddion.

00:09

Penparcau! Y blwch olaf i ddod mewn!

23:57

Caleb o’r cownt

 

23:55

Awgrym bach o pwy sy’n mynd â hi yng Ngheredigion, yn ôl y samplau ?

Unrhyw un ishe dyfalu’r mwyafrif?

23:45

Blychau pleidleisio yn dechrau dod i mewn o ardal Aberystwyth nawr – Tybed a fydd hyn yn cael effaith?

23:40

“Byddwn ni’n lwcus o gew ni 3ydd”

Un o dîm y Lib Dems yn ofni’r gwaethaf.

23:34

3 o’r ymgeiswyr wedi cyrraedd hyd yn hyn – Gethin James o’r Brexit Party, Chris Simpson o’r Blaid Werdd, a Dinah Mulholland o Llafur (y rhai lleia tebygol o ennill y sedd – o bosib?) ?‍♂️

23:25