Blog noson yr etholiad, sy’n dod yn fyw o’r cyfrif yng Nghanolfan Hamdden Aberaeron.
- Mwyafrif o dros 6,300 i Ben Lake yng Ngheredigion
- Y Torïaid yn dod yn ail
- Mark Williams yn cyhoeddi na fydd yn sefyll eto. “mae 20 mlynedd yn eitha’ digon” meddai.
“In my heart, Ben is my MP”
Dyna argraffiadau un o dîm y Gwyrddion.
Penparcau! Y blwch olaf i ddod mewn!
Caleb o’r cownt
Awgrym bach o pwy sy’n mynd â hi yng Ngheredigion, yn ôl y samplau ?
Unrhyw un ishe dyfalu’r mwyafrif?
Blychau pleidleisio yn dechrau dod i mewn o ardal Aberystwyth nawr – Tybed a fydd hyn yn cael effaith?
“Byddwn ni’n lwcus o gew ni 3ydd”
Un o dîm y Lib Dems yn ofni’r gwaethaf.
3 o’r ymgeiswyr wedi cyrraedd hyd yn hyn – Gethin James o’r Brexit Party, Chris Simpson o’r Blaid Werdd, a Dinah Mulholland o Llafur (y rhai lleia tebygol o ennill y sedd – o bosib?) ?♂️
Perffaith!!!! Fydda hyn ddim yn digwydd yn unlle arall yn y bydysawd!" Diolch byth am achos i wenu! https://t.co/Locu9sl4QK
— Arwel Jones (@RocetArwel) December 12, 2019
Iep. Ceredigion mor amhosib i'w ddarogan ac erioed!
— GutoA (@cwlcymro) December 12, 2019
Hyn yn dangos pa mor agos yw hi yng Ngheredigion ar hyn o bryd. Amhosib gwybod pwy fydd yn mynd a hi.
Roedd Y Blaid Lafur yn lleol yn hyderus eu bod wedi gwneud cynnydd da dros ddiwrnodau olaf yr ymgyrch.
Dyma argraffiadau Nel Jenkins ar ddiwedd yr ymgyrchu:
“Yng Ngheredigion mae gennym grŵp gwych o weithredwyr gwirfoddol sydd wedi brwydro yn erbyn y tywydd gaeafol i ganfasio ledled y sir. Mae’r ymgyrch wedi mynd o nerth i nerth, rydyn ni wedi gallu hyrwyddo a thrafod ein maniffesto ysbrydoledig, ac wrth gwrs ychydig ddyddiau yn ôl ymwelwyd â ni gan Jeremy Corbyn ei hun. Roedd yn eithaf hyfryd gweld ei fws wedi’i barcio ar y prom yn Aber! Mae’r etholaeth bellach wedi’i chydnabod fel sedd ymylol ac rydym yn obeithiol ein bod wedi adeiladu ar y cynnydd enfawr a enillwyd gennym yn 2017, i gyrraedd y cynnydd o 4.5% sydd ei angen arnom y tro hyn i ethol AS benywaidd cyntaf Ceredigion i San Steffan.
Yn anochel rydym wedi cael trafodaethau am Brexit, ond mae pobl hefyd yn poeni am y goblygiadau i etholaethau gwledig fel Ceredigion os fydd y Torïaid yn ennill mwyafrif. Mae llawer o bobl yn cydnabod mai Llafur yw’r unig blaid sydd â’r niferoedd a’r ewyllys i sicrhau newid radical, a’r ymrwymiad credadwy i gynyddu cyllid i Gymru. Mae llawer o gefnogwyr Llafur a bleidleisiodd yn dactegol yn 2017 wedi dweud wrthym y byddan nhw y tro yma yn pleidleisio â’u calonnau dros gymdeithas garedig a thecach sy’n gweithio er budd y llu yn lle’r lleiafrif.
Mae’r ymgyrch lleol wedi bod yn un gadarnhaol a chyffrous, ac rwy’n falch ac mor ddiolchgar i’m holl gymrodyr sydd wedi gweithio mor galed i chwalu’r myth ras dau geffyl a phlannu’r blaid Lafur yn gadarn yn y ras yng Ngheredigion. Wrth i ni glou heddiw, ni allaf helpu ond deimlo’n obeithiol ein bod ni efallai wedi’i gneud hi y tro yma.”