Dyn o Dalybont ym mhrotest XR yn Llundain

Mae dyn o Dalybont yn un o grŵp o Gymry sy’n rhan o brotest Extinction Rebellion (XR) yn Llundain.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae dyn o Dalybont yn un o grŵp o Gymry sy’n rhan o brotest Extinction Rebellion (XR) yn Llundain.

Fe ddywedodd Alexis Flores Williams wrth broaber360 eu bod yn cael derbyniad da wrth rannu taflenni a gwersylla y tu allan i’r Swyddfa Gartref yn Llundain.

“Dw i wedi bod yn aros mewn pabell ar y stryd ac yn rhannu gwybodaeth gyda phobl, ac maen nhw wedi bod yn fodlon siarad,” meddai. “Maen nhw’n gofyn cwestiynau ac yn chwilfrydig.

“Mae’n brofiad newydd, ond anodd hefyd – dwi wedi blino – ond mae’n ardderchog cwrdd â chymaint o bobl sy’n gweithredu dros fyd newydd.”

Grŵp o Gymry

Roedd y mudiad – Gwrthryfel Difodiant – wedi cynnal gwersyll gweithredu yn Borth y mis diwetha’ er mwyn paratoi at y brotest yn Llundain a rhoi gwedd Gymreig ar eu gwaith.

“Dw i wedi bod yma ers dydd Llun, y tu fas i’r Home Office, gyda grŵp o Gymry, a grwpiau XR eraill,” meddai Alexis Flores Williams.

“Mae’n bwysig am y ffaith y bydd newid hinsawdd yn cael effaith anferthol ar bobol dros y byd, yn enwedig ar y mannau tlota’.

“Hyd yma, ry’n ni wedi bod yn targedu canolbwyntiau pŵer economaidd a gwleidyddol, ac felly mae llai o disruption ar fywydau pobol.”

Nododd fod protestwyr o’r Borth, Talybont, Aberystwyth, a grŵp niferus o Fachynlleth yn bresennol yn Llundain.

Mae’r brotest yn rhan o ymgyrch ryngwladol sy’n galw ar lywodraethau’r byd i fynd i’r afael â chynhesu byd eang cyn ei bod hi’n rhy hwyr.