Cydnabod croeso Ceredigion i ffoaduriaid

Cyngor Ceredigion yn ennill Gwobr Awdurdod Lleol 2019, diolch i’w ymdrechion i groesawu ffoaduriaid

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ennill ‘Gwobr Awdurdod Lleol 2019’ yng Ngwobrau Noddi Cymunedau 2019, diolch i’w ymdrechion yn croesawu ffoaduriaid. Fe wnaeth arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, dderbyn y wobr genedlaethol ynghyd â Cathryn Morgan, Cydlynydd Pwynt Teulu a Ffoaduriaid y Cyngor.

Ceredigion oedd un o 5 awdurdod lleol i gael eu henwebu am y wobr sy’n cael ei rhoi am gydweithio â grwpiau cymunedol sy’n helpu teuluoedd sy’n ffoi rhag rhyfel, newyn, a digartrefedd.

‘Cymunedau ymroddedig’

“Rwyf wrth fy modd ein bod ni wedi llwyddo i ennill gwobr ar lefel y DU,” meddai Ellen ap Gwynn. “Y wobr fwyaf yw gwybod ein bod wedi helpu cymunedau yng Ngheredigion i gynnig cyfeillgarwch a diogelwch i ffoaduriaid o Syria sy’n ffoi rhag erchyllterau rhyfel cartref.”

“Tra bod cael ein cydnabod am ein cyfraniad yn anrhydedd, ni fyddwn wedi ennill  y wobr pe na bai am y cymunedau ymroddedig yn Aberystwyth ac Aberteifi. Mae Aberaid a Chroeso Teifi yn rhannu ein llwyddiant.”

Lansiwyd y cynllun Noddi Cymunedau gan y Swyddfa Gartref yn 2016. Ei nod yw galluogi grwpiau o wirfoddolwyr i ailgartrefu teulu o ffoaduriaid yn eu cymunedau. Mae’n rhaid i’r cynlluniau gael eu cymeradwyo gan y cyngor cyn iddynt gael caniatâd gan y Swyddfa Gartref, a fydd wedyn yn paru ffoaduriaid â grŵp o’r gymuned.

Cyrhaeddodd teulu arall o ffoaduriaid Aberystwyth ym mis Mehefin, a chafodd digwyddiad llwyddiannus ‘Dewch at Eich Gilydd’ ei gynnal yn y Morlan i’w croesawu. Yn ogystal â hynny, cafodd ‘Cinio Syria’ ei gynnal yn Theatr y Werin.