Codi mwy na £5,000 i gofio artist o Aber

Mae trefnwyr cronfa goffa i artist o Aberystwyth wedi cael eu “syfrdanu” gan y gefnogaeth

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae trefnwyr cronfa goffa i artist o Aberystwyth wedi cael eu “syfrdanu” gan y gefnogaeth – mae nhw wedi curo’u targed o fwy na £1,000 eisoes, gyda misoedd o’r apêl i fynd.

Maen nhw wedi cyhoeddi bod mwy na £5,000 bellach wedi eu rhoi at y Cynllun Grant Celfyddydol Cymunedol er cof am Anna Evans, a gafodd ei lladd mewn damwain ddiwedd mis Awst eleni pan oedd ar ei gwyliau yng Nghaernarfon.

Roedd hi’n adnabyddus fel artist llawrydd a hefyd am ei gwaith gydag Amgueddfa Ceredigion, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ac yn fwyaf diweddar prosiect o’r enw Cartref/Home yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth.

Nod y gronfa yw cyflwyno grant bob blwyddyn i unigolyn neu grŵp creadigol yng Ngheredigion i weithio ar brosiect yn y gymuned, m.

A hithau ei hun yn gweithio llawer yn ei chymuned, gobaith y trefnwyr yw y bydd y grant cadw ei gwaith yn fyw.

Cefnogaeth

“R’yn ni wedi’n syfrdanu gan y gefnogaeth hyd yn hyn,” meddai trefnydd y cynllun, Stephen Griffiths. “Mae mynd £1000 dros ein targed mewn cyn lleied o amser yn dangos faint yr oedd gwaith Anna wedi cyffwrdd â phobl yng Ngheredigion a thu hwnt.

“Roedd Anna yn gwisgo sawl het, o helpu disgyblion ysgol i ymwneud â gwrthrychau yn yr amgueddfa, i deithio mewn bws o gylch yr ardal leol er mwyn cynnal gweithdai ar gyfer gwahanol gwmnïau.

Gyda thoriadau ariannol ar draws sawl sector, yn enwedig yn y celfyddydau, un o nodau’r Cynllun fydd cynnig cymorth i bobl greadigol mewn hinsawdd ariannol anwadal.

“R’yn ni’n gobeithio medru ariannu prosiectau wedi’u gwreiddio’n gadarn yn y gymuned”, meddai Stephen Griffiths. “R’yn ni’n dal i gymryd y camau cynta’ wrth sefydlu’r cynllun hwn ac yn gobeithio lansio ein gwefan yn ystod yr wythnosau nesa’.”