CFfI Ceredigion – YN FYW o’r Steddfod

Aelodau CFfI Ceredigion sy’n dod â holl hwyl #steddfodcardi yn fyw o Bafiliwn Bont.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae’n ddiwrnod Steddfod y Clybie yng Ngheredigion, a thrwy gydol y dydd bydd yr aelodau’n dod â’r diweddara o’r digwyddiad – o ganlyniadau i luniau, o gyfweliadau i farn y beirniaid answyddogol, ar y blog byw yma ar wefan fro newydd sbon BroAber360.

Uchafbwyntiau:

  • Clwb Pontsian gipiodd y Steddfod, yr adran lwyfan a’r adran gwaith cartref
  • Twm Ebbsworth o Glwb Llanwenog enillodd y Gadair a’r Goron
  • Heledd Besent yn cipio tair gwobr ac Unawdydd Gorau’r Steddfod
  • Yr aelodau’n cydio yn y cyfle i ‘ddarlledu’ eu steddfod trwy greu a chynnal y blog byw yma!

20:28

Y ddau Ronnie daeth yn gynta, a nawr daw’r ddau Osian o Glwb Caerwedros…

20:24

20:23

Beth yw’r farn am berthynas CFfI Ceredigion ac NFYFC?

Mae rhai o’r aelodau wedi bod yn meddwl am y berthynas yn sgil trafodaethau am newid ar lefel CFfI Ceredigion yn ddiweddar.

Mae da nhw fanteision gweld CFfI Ceredigion yn rhan o CFfI Cymru yn unig; manteision bod yn aelod o Glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru a Lloegr (NFYFC); ac maen nhw wedi bod yn meddwl am y cwestiynau licen nhw gael atebion iddynt.

 

 

20:09

19:51

19:47

? CANLYNIAD – UNAWD SIOE GERDD ?

1af – Heledd Besent, Clwb Mydroilyn

2il – Beca Williams, Clwb Tal-y-bont

Gydradd 3ydd – Lowri Elen Jones, Clwb Bro’r Dderi a Glesni Morris, Clwb Llangwyryfon

19:46

Mae’r Aelod Seneddol Ben Lake yma, a cawsom sgwrs am bwysigrwydd a safon y Steddfod.

19:28

Sgwrs gyda Twm Ebbsworth munudau ar ôl iddo gamu o’r llwyfan wedi ennill y Goron a’r Gadair – a gwarandewch tan y diwedd am ymwelydd arbennig!

Mwy am ei gamp yn y stori yma.

19:25

? CANLYNIAD – CÂN GYFOES ?

1af – Clwb Caerwedros

19:14

? CANLYNIAD – PARTI LLEFARU ?

1af – Clwb Lledrod

2il – Clwb Bro’r Dderi

3ydd – Clwb Llanwenog