Twm yn taro ddwywaith

Enillydd Cadair a Choron Eisteddfod CFfI Ceredigion yw Twm Ebbsworth o Glwb Llanwenog.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Enillydd Cadair a Choron Eisteddfod CFfI Ceredigion yw Twm Ebbsworth o Glwb Llanwenog.

Yn ôl y beirniad, Anni Llŷn, mae’n llenor “dyfeisgar ac unigryw” sydd yn gallu sgwennu’n glyfar heb fod yn gymhleth.

Mae ei stori fer, sydd wedi’i gosod yn y flwyddyn 2030, yn sôn am gymeriad sydd wedi cael y swydd yn y llywodraeth o achub cefen gwlad Cymru mewn 6 mis. Mae’n “sylwebaeth grafog ar y sefyllfa wleidyddol”, medd Anni Llŷn, ac mae’n stori sy’n werth ei darllen.

Mae ei gerdd fuddugol yn talu teyrnged i ddyn o Syria sydd wedi dod i Geredigion ac wedi dysgu Cymraeg.

Mae twm yn dilyn ôl troed ei fam, Meinir, a enillodd y Gadair yn Eisteddfod 1997.

Dyma ran o gyfarchiad Endaf Griffiths, Ffermwr Ifanc y Sir, i Twm:

“Wrth wneud dy strocen heno

yr wyt, Twm, ’di codi’r to”

Y Goron

1af – Twm Ebbsworth, Clwb Llanwenog

2il – Elen Davies, Clwb Pontsian

3ydd – Catrin Davies, Clwb Tal-y-bont

 

Y Gadair

1af – Twm Ebbsworth, Clwb Llanwenog

2il – Ianto Jones, Clwb Felinfach

3ydd – Eiry Williams, Clwb Llangwyryfon

CFfI Ceredigion – YN FYW o’r Steddfod

Lowri Jones

Aelodau CFfI Ceredigion sy’n dod â holl hwyl #steddfodcardi yn fyw o Bafiliwn Bont.